Mae'r oriel yn gwerthfawrogi unrhyw gyfraniadau a wneir yn fawr neu'n fach

Mae llawer o ffyrdd y gallwch chi gefnogi'r oriel: Dod yn Gyfaill, Gwirfoddoli, Gadael Etifeddiaeth roi rhodd.

Gellir cefnogi ar hyn o bryd trwy gael enw wedi ei ysgythru ar ddisg dur gwrthstaen yn y caffi newydd. Gwelwch isod am y linc i lawrlwytho y ffurflen.

Nodwch bydd archebion newydd am ddisgiau yn cael eu danfon i ffwrdd ar y 1af o Ebrill a'r 1af o Dachwedd. Fe all y broses o archebu, cynhyrchu a gosod gymryd hyd at 10 mis.

Cysylltwch â ni os ydych chi'n teimlo y gallwch chi fuddsoddi yn nyfodol Plas Glyn y Weddw - e-bostiwch Gwyn Jones gwyn@oriel.org.uk neu ffoniwch yr oriel 01758 740763.

Diolch

Ffurflen Noddi

Ffurflen Noddi Disg Dur Gwrthstaen