Arddangosfa Coed Coexist 2026

Ymunwch â ni ar gyfer agoriad swyddogol arddangosfa Coed Coexist ar 16 Mai am 11:00yb.

Dewch i ddathlu'r lansiad gyda rhaglen helaeth o weithdai creadigol, arddangosiadau a digwyddiadau cyfranogol AM DDIM a chynhwysol a gynhelir drwy gydol y dydd. Cefnogir y rhaglen hon yn hael gan gyllid gan Sefydliad Denise Coates.

Darllenwch fwy am yr arddangosfa a'r prosiect ehangach isod, a gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu eich lle yn un o'r digwyddiadau.

*Sgroliwch i lawr am fwy o fanylion a gwybodaeth archebu.

 

Gwreiddiedig mewn Natur, Cysylltwyd drwy Greadigrwydd

Dechreuodd Coed Coexist gyda gweithred o natur...

Ym mis Ionawr 2024, disgynnodd ffawydden fawr mewn storm ar dir Plas Glyn-y-Weddw. Roedd y goeden wedi sefyll am oddeutu 150–200 o flynyddoedd, ac wedi’i siapio gan wyntoedd a thywydd arfordirol Penrhyn Llŷn.

Roedd y saer coed lleol, John Egan, a’r artist metel, Junko Mori, yn gweld y goeden a ddisgynnodd nid yn unig fel pren, ond fel deunydd â stori i’w hadrodd. O’r foment honno, gyda chydweithrediad Plas Glyn-y-Weddw, daeth y syniad am Coed Coexist i’r amlwg – prosiect sy’n tynnu sylw at ecosystemau coetir, wrth gysylltu cymuned, creadigrwydd a gofal am yr amgylchedd.

Daeth y ffawydden yn ganolbwynt i’r prosiect. Torrwyd y boncyff yn estyll, a chadwyd canghennau a hyd yn oed y darnau lleiaf a’r llwch llif, gyda pheth o’r deunydd yn cael ei droi’n siarcol. Y nod oedd anrhydeddu bywyd y goeden drwy ddefnyddio cymaint ohoni â phosibl.

 

 

Ym mis Medi 2024, daeth symposiwm ag artistiaid, rheolwyr tir, arbenigwyr amgylcheddol a’r gymuned leol ynghyd i archwilio ecoleg coetiroedd, traddodiadau crefft a deunyddiau cynaliadwy.

Yn dilyn hyn, derbyniodd mwy na saith deg o artistiaid a gwneuthurwyr o Benrhyn Llŷn, ledled Cymru a thu hwnt, ddarnau o’r ffawydd o weithdy John a Junko. Gan fod yr holl ddarnau wedi dod o’r un goeden, dechreuodd pob un ar daith greadigol wahanol. Mae’r gweithiau a ddeilliodd o hyn – gan gynnwys dodrefn, cerflunwaith, llestri, darluniau, cerddoriaeth ac ysgrifen – yn adlewyrchu ymateb unigol y gwneuthurwr, tra’n rhannu tarddiad cyffredin.

Diolch i gyllid o gronfa Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, meithrinodd y prosiect gyfnewidiadau diwylliannol rhwng Cymru a Siapan. Teithiodd ffawydd Cymreig i ogledd Siapan, lle bu aelodau o’r gymuned frodorol Ainu yn cerfio gwrthrychau traddodiadol o’r pren, gan amlygu perthnasoedd cyffredin â choedwigoedd a deunyddiau. Arweiniodd partneriaethau â Chymdeithas Diwylliant Pren Mynydd Fuji at breswyliadau artistiaid yn y ddwy wlad, gan gefnogi rhannu sgiliau a dyfnhau cysylltiadau rhwng traddodiadau crefft a pharch at natur. Rhannodd Ymddiriedolaeth Coetir Afan yn Nagano hefyd ffilm animeiddio etifeddiaeth yr awdur Cymreig-Siapaneaidd C.W. Nicol, wedi’i chyfieithu yma i’r Gymraeg gan ddisgyblion o Ben Llŷn.

Ochr yn ochr â’r gyfnewidfa ryngwladol hon, cefnogodd Coed Coexist artistiaid ledled Cymru drwy fentrau megis Gwobr Gwneuthurwr Ifanc a phum comisiwn creadigol.

Mae Coed Coexist yn dangos sut y gall un goeden, sydd wedi’i gwreiddio yn nhirwedd Penrhyn Llŷn, barhau i dyfu drwy ddychymyg a chreadigrwydd ar y cyd.

Dywedodd y cerflunydd David Nash,

“Mae coed yn cymryd dim ond digon, ac yn rhoi mwy yn ôl...”

Dyma sydd wedi dod yn ymgorfforiad o Coed Coexist.

 

Mae prosiect Coed Coexist wedi bod yn bosibl diolch i gefnogaeth hael Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru, Y Loteri Genedlaethol, Sefydliad Denise Coates, John Egan a Junko Mori, Cyngor Gwynedd (a ariannodd gomisiynau), a Plas Glyn-y-Weddw y mae eu hymrwymiad i’r celfyddydau, diwylliant a’r amgylchedd wedi helpu i wireddu’r prosiect hwn.

Funders 2

Digwyddiadau Agoriad: 16eg Mai

11:00 – 13:00 

Gweithdy gwneud Medal Gopr gyda Planhigion wedi'u Gwasgu (sesiwn galw heibio) gyda artist Junko Mori + Jo Porter (Dolydd Llŷn Meadows)

*3 sesiwn 45 munud

*Llefydd cyfynedig. Archebwch le ar y diwrnod 

 

11:00 – 12:00 +

12:00 - 13:00

Sesiwn Adfywio Coetir gyda artist Alison Neighbour + ymgynghorydd coetir Simon Gibbs (Oriel Fyw) 

*Archebwch isod

 

13:00 – 14:00 + 

14:00 - 15:00

Gweithdy Bywyd Morol gyda artistiaid Jonty Storey, John Egan + Seren Harris (Pen Llŷn a Sarnau) 

*Archebwch isod

 

13:00 – 14:00 + 

14:00 - 15:00

Daear(u): Gweithdy Pridd fel Celf gyda artist Gabriella Rhodes + GeoMôn 

*Sesiwn galw heibio

*Llefydd cyfynedig, 10-person ar y tro 

*Plant o dan 16 gyda oedolyn 

 

+ llawer mwy gan gynnwys North Wales Bodgers gyda demo cerfio, perfformiadau gan artist comisiwn Coed Hedydd Ioan, bardd Mary Robinson a cherddoriaeth byw gan Jeff Hughes ac eraill  

 

Digwyddiadau cyhoeddus eraill yn ystod yr arddangosfa rhwng mis Mai a mis Gorffennaf yn cynnwys: 

Sgyrsiau artist, Sesiwn peirograffi ar bren gyda Mr Kobo, Sesiwn gwneud bocs adar a sesiwn gwesty trychfilod gyda Mark Emptage, Sesiynau Symud gyda Henrietta Wynne Finch... a mwy! 

 

AM DDIM

Ymunwch â ni ar gyfer agoriad swyddogol arddangosfa Coed Coexist ac archebwch ddigwyddiad ar y diwrnod: