Yn anochel oherwydd yr amgylchiadau presennol rydym yn gorfod gohurio dyddiad ail-agor y Plas ac agoriad yr arddangosfeydd newydd.
Mae arddangosfeydd Catrin Williams, Sian Parri, Katy Mai Webster ac Elin Hughes yn symud i fis Ionawr flwyddyn nesaf, tra bydd gwaith Katherine Jones i’w weld dros yr haf fel nodwedd arbennig o’r Arddangosfa Haf.
Roeddem wedi edrych ymlaen i gael cyflwyno gwaith newydd cyffrous gan y bump artist ac yn siomedig iawn i orfod gohurio, ond gyda ansicrwydd pryd y bydd y cyfnod clo hwn yn dod i ben mae’n well gennym symud yr arddangosfeydd yn eu cyfanrwydd na chymryd siawns ac yna gorfod cwtogi. Maent i gyd wedi gwetihio mor galed yn paratoi ac yn haeddu cael cyfnod arddangos têg.
Byddwn yn cyhoeddi dyddiad newydd ar gyfer ail-agor ac ar gyfer yr arddangosfeydd nesaf yn y man.
Yn y cyfamser mae ystod hyfryd o weithiau celf a llawer o eitemau o'r siop ar gael ar-lein:
https://oriel-plas-glyn-y-wedd...
ac mae staff yr oriel ar gael os bydd unrhyw ymholiadau – enquiry@oriel.org.uk
RYDYM YN CYNNIG CLUDIANT AM DDIM YN Y DU AR BOB PRYNIANT YN YSTOD CHWEFROR 2021
Mae’r gwaith adeiladu yn mynd rhagddo’n hwylus a bydd cyfleusterau ystafell ymolchi newydd yn barod pan fydd yr oriel yn cael ail-agor. Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Celfyddydau Cymru am arian o Gronfa Adfer Diwylliannol Cymru am gefnogaeth tuag at swyddi staff trwy'r argyfwng presennol sydd wedi’n galluogi i barhau i weithio ac edrych ymlaen at y dyfodol.
Diolch yn fawr am eich cefnogaeth drwy’r amseroedd anodd yma ac edrychwn ymlaen yn arw i’ch croesawu’n ôl i’r Plas cyn hir.
Cadwch yn ddiogel.