Jacob Buckland

Jacob Buckland - Tirwedd a Natur

Mae ei arddangosfa unigol yma ym Mhlas Glyn-y-Weddw yn rhedeg o Fai 19eg tan Gorffennaf 14eg 2019.

Yng ngeiriau Jacob:

“Mae fy ngwaith yn adwaith i’r ymdeimladau sy’n cael eu creu a’r hyn y sylwaf arnynt am leoliadau arbennig a chyfnodau gwahanol. Mae tirluniau yn cael eu trawsnewid gan dywydd a thymor, dydd a nos, ac yn apelio yn ysbeidiol at synhwyrau personol.”

Agorir gan Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC am 2 o'r gloch bnawn Sul, Mai 19eg