Ruth Gibson - Mapio Llŷn

Golwg unigryw ar Lŷn drwy glai, carreg a phren

Mae’r arddangosfa ymlaen hyd 17/03/2019

Trwy weithio gyda porslen mae Ruth Gibson yn cyfuno cariad a ffotogaffiaeth, gwneud printiadau a serameg er mwyn creu ymdeimlad o le; ac ar gyfer yr arddangosfa yma mae ei gwaith wedi ei ysbrydoli gan dirlun Llŷn.
Mae’r delweddau yn cynnwys coed yn y gaeaf, gweadau natur, adar yn hedfan, creigiau odan yr wyneb a chynhwysiad rhannau o fapiau er mwyn gwreiddio y gwaith yn y man sydd wedi ei ysbrydoli. Mae meini hirion hynafol sydd wedi eu darganfod yn wasgaredig ar hyd y tirlun gwyllt yn cael eu hadleisio yn siapiau y gwaith serameg. Mae amlinell y penrhyn o bellteryn thema sydd i’w weld trwy’r gwaith. Mae delwedd yr amlinell a siapiau’r bryniau a phatrymau eu cyfuchlinau ar fapiau yn cael eu cynnwys yn ei gwaith dro ar ôl tro.

Trwy ddefnyddio ffotograffiaeth a thechnegau argraffu serameg yn galluogi I ffoto-realiaeth gael ei gyfuno gyda marciau mwy haniaethol er mwyn creu haenau o ddelweddau. Cyn gynted ag y mae’r clai wedi ei sgrîn- brintio, gall y clai gae ei ymestyn dros y mowldiau, gall y print gael ei ystumio, neu rannau bachgael eu hychwanegu neu eu tynnu ymaith er mwyn creu patrymau haniaethol. Mae ychwanegu gwydredd a chlai lleol yn ychwanegu at y gwaith.
Trwy y gwaith yma, mae Ruth yn cyflwyno yr ymdeimlad o heddwch a thawelwch sydd I’w brofi trwy gyfrwng yr amgylchedd naturiol. Mae’n ceisio ymchwyddo ansawdd y porslen ac adlewyrchu byd natur, gwynder carreg berffaith gron berffaith, patrymau sydd yn ymddangos fel eu bod wedi eu cripio ar gerrig a llyfnder cregyn sydd wedi eu gwisgo gan y môr. Mae ganddi obsesiwn erioed gyda deunydd sydd yn cae eu dargangfod. Cerrig yn enwedig!
Tra’n ymchwilio ar gyfer y prosiect yma, mae Ruth wedi darganfod bod ei thad, sydd yn fardd, wedi ysgrifennu barddoniaeth am ei ardal leol ac ‘roedd yntau yn cael ei gyfareddu gan amlinelliad y bryniau. Mae Ruth wedi canolbwyntio ar un darn o farddoniaeth yn enwedig, sydd yn ymddangos yma ar graig porslen a chyfrwng clywedol.

Mae cyfuniad o 2D a 3D mewn rhai o’i gweithiau, ble mae delweddau fflat wedi eu printio ar arwyneb sydd a thro neu ar gerrig tri dimensiwn sydd a golygfa o belter. Mae cerrig wedi eu defnyddio yn lle canfas ar gyfer y gwaith.
Ym Morthdinllaen ar arfordir gogleddol y Penrhyn mae tirlithriadau yn digwydd yn aml ar y gelltydd môr yn ystod y gaeaf ac mae clai yn dod i’r golwg ar y traeth. Mae Ruth wedi gweithio gyda’r clai yma yn y fan a’r lle ar y gtraeth ac wedi bod yn ei gasglu er mwyn ei gynnwys yn ei gwaith. Mae’r arddangosfa yma wedi sbarduno arbrofi gyda chlai lleol. Mae’r clai yn gweithio yn dda fel slip a gwydredd a gellir ei ddarganfod mewn nifer o’r gweithiau yma. Mae lliw brown tywyll iddo wedi ei danio ar dymheredd uchel.
Mae paentio y tirlun gyda chlai sydd i’w ddarganfod o dan wyneb y ddaear yn cryfhau y cyswllt rhwng celfyddyd a’r deunydd. Mae gan Ruth ddiddordeb erioed mewn serameg mawr o ran maint ac mae ei gwaith wedi eu ffurfio o nifer o ddarnau gan greu celf wal ar raddfa fwy.

Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys y gweithiau mwyaf y mae wedi eu gwneud hyd yma ac mae creu y gwaith ar gyfer yr arddangosfa hon wedi bod yn dasg anferthol.


"Screen-printed and glazed ceramic artworks utilising photography and ceramic printing techniques; allowing for photo realism combined with more abstract mark making to build up layers of images."

Ruth Gibson, January 2019