Light and Water

Goleuni a dwr ydi y thema trawsfwaol arddangosfa tri artist o Sir Gaer sydd wedi derbyn ysbrydoliaeth gan natur a’r byd naturiol, yn enwedig rheadrau gwyllt, adlewyrchiad golau’r haul yn dawnsio ar gwr y dwr, gwymon a chigfrain chwareus

Mae’r tri cyflwyniad yn cynnwys dyfrliwiau gan Jenny Ryrie, ffotograffiaeth a ffilm gan David Heke a serameg gan Liz Ellis. ‘Roedd yr artistiaid yn rhan o’r arddangosfa hynod lwyddianus ‘Petalau a Chrafangau’, oedd yn dathlu 50 o flynyddoedd ers cyhoeddi ‘Owl Service’ gan Alan Garner a gynhaliwyd ym Mhlas Glyn-y-Weddw yn 2018, ac mae’n bleser gwahodd y tri yn ôl gyda’r arddangosfa yma sy’n wledd i’r llygaid ac yn ysgogi trafodaeth.

Cliciwch ar eu henwau isod i weld gwybodaeth am eu harddangosfeydd unigol:

Jenny Ryrie - Goleuni a Dŵr

David Heke - Ar y Trothwy

Liz Ellis – Cysylltiadau Elfennol