Arddangosfa Canmlwyddol Jonah Jones

Mae rhaglen arddangosfeydd 2019 ym Mhlas Glyn-y-Weddw wedi dechrau gyda arddangosfa adolygol arbennig i ddathlu bywyd a gwaith yr artist Jonah Jones (cliciwch ar enw'r artist i fynd i'w dudalen)

Arddangosfa dathlu canmlwyddiant geni
Jonah Jones

Teyrnged i fywyd rhyfeddol a gwaith yr artist amryddawn trwy gyfrwng detholiad o'i waith wedi ei fenthyca o gasgliadau cenedlaethol a phreifat ac yn cynrhychioli gwahanol gyfnodau yn ei fywyd, gan gynnwys gwaith dyfrlliw, cerfluniau, caligraffi a gwydr lliw.

&

Cyswllt / Connection: I gyd-fynd a dathliad canmlwyddol Jonah Jones rydym yn falch i arddangos gwaith detholiad o artistiaid sydd a chyswllt i fywyd a gwaith Jonah

Menna Angharad / Chris Bird-Jones / Howard Bowcott / Simon Callery /
Sarina de Majo / Richard Higlett / Aled Prichard-Jones / Claire Langdown /
David Nash / Rob Piercy / Vivienne Rickman Poole / Janet Smith /
Rachel Stewart / Bill Swann / Meic Watts

Diolch i Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Gwynedd am gefnogaeth gyda'r arddangosfa yma.

Mae’r arddangosfeydd ymlaen hyd Fawrth 17eg

Dymuna Plas Glyn-y-Weddw ddatgan diolch gwresog i bawb fu’n gymorth gyda arddangosfa Jonah Jones, yn arbennig ei deulu sydd wedi bod yn hael iawn gyda’u hamser a’u benthyciadau; i bawb, boed yn sefydliad neu’n unigolyn, am fenthyciadau eraill ac i Bortmeirion am gefnogi cyhoeddiad y gyfrol hardd sy’n cydfynd â’r arddangosfa. Cafwyd cymorth gan Chyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Gwynedd tuag at yr arddangosfa gyfoes gyfochrog â’r rhaglen digwyddiadau.

Related Events

28/2 & 01/3

Family Drop-in Workshops

Inspired by Jonah Jones’ calligraphic works

with Richard Higlett, one of the Connection artists

02/03

Calligraphy Workshop

with Janet Smith, one of the Connection artists

Come and create a small panel to display in your home or give as a gift. Suitable for over 14 yrs of age. No experience necessary.

£40 including light lunch

09/03 Trip to Portmeirion

Trip to the unique village of Portmeirion for a guided walk with Rob Piercy, one of the Connection artists

£15 (lunch additional)