Arddangosfa Agoriadaol 2018

Teyrnged i'r teulu Ap Tomos - arddangosfa i ddathlu cyfraniad Gwyneth a Dafydd ap Tomos, wnaeth achub y Plas yn chwarter ola'r ganrif ddiwethaf. Gwaith Gwyneth ap Tomos a detholiad o artistiaid yr oriel, hen a newydd - Kyffin Williams, Gwilym Prichard, Claudia Williams, Donald McIntyre, William Selwyn, David Tress, Rob Piercy, Peter Lord, Iwan Bala, Elis Gwyn, Kim Atkinson, Catrin Williams, Luned Rhys Parri, Elin Huws, David Grosvenor, Wil Rowlands, Stephen John Owen, Ray Wilkinson, Gwyn Roberts, Penny Timmis, Lisa Eurgain Taylor, Therese Urbanska, Carys Bryn, Sian McGill, Janie McLeod, David Barnes, Ffion Gwyn.

Agorwyd yr arddangosfa gan Iwan Bala - cliwciwch i lawrlwytho ei gyflwyniad

Mae’r arddangosfa grŵp Petalau a Chrafangau yn dathlu 50 mlynedd ers cyhoeddi llyfr The Owl Service gan Alan Garner, nofel yn seiliedig ar hanes Blodeuwedd, y ferch greuwyd o flodau ac a dröwyd yn dylluan yn y Mabinogion.