Karl Davies - Y Tirlun Cymreig a Ni

Mae arddangosfa Karl Davies, artist sy’n wreiddiol o Gasnewydd ond nawr yn byw ym Mhontypridd, sy’n dwyn y teitl ‘Y Tirlun Cymreig a Ni’ yn cynnwys paentiadau olew ac inc a golch wedi eu hysbrydoli gan gymeriadau a thirluniau De Cymru. Mae naws draddodiadol i’w waith gan gynnwys delweddau o bobl yn arddel hen grefftau ynghyd a thirluniau gwledig a threfol.