Elfyn Lewis - Nesa Peth i Ddim

Mae'n bleser gan blas Glyn-y-Weddw gyflwyno arddangosfa o baentiadau newydd gan Elfyn Lewis - 'Nesa Peth i Ddim'

Yn frodor o Borthmadog, mae Elfyn wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ers sawl blwyddyn bellach ond daw dylanwad ei gynefin yn Eifionydd o ddyfnderoedd ei is-ymwybod wrth iddo weithio'n reddfol ar ei ganfasau trawiadol. Er mai haniaethol ydynt, daw elfennau tirweddol i'r amlwg drwy'r haenau paent ystumiol mewn gwaith sy'n gryf a thyner fel ei gilydd.


Nesa Peth i Ddim - yr arddangosfa

Sgwrs Sul - Gorffennaf 8ed, 2 - 3.30pm - Trafodaeth yn archwilio dylanwad man geni a magwraeth. Gyda / With - Branwen Cennard, Carwyn Jones, Elfyn Lewis, Angharad Price, Michael Sparks a Guto Williams (Cadeirydd)