Andreas Rüthi       - LLE AR Y BWRDD

Mae Andreas Rüthi yn cyflwyno gwaith newydd a ysbrydolwyd gan y casgliad gwych o borslen Abertawe a Nantgarw sydd ym Mhlas Glyn-y-Weddw mewn arddangosfa yn dwyn y teitl Lle Ar y Bwrdd.

Er mwyn archwilio diddordeb Rüthi mewn technegau peintio a gwaith bywyd llonydd ymhellach, fe'i gwahoddwyd i gyd-ddethol arddangosfa o ddarluniau bywyd llonyddo a gellir gweld Trefniannau Bywyd Llonydd ochr yn ochr â'i sioe unigol. Mae'r cyflwyniad yn gyfuniad gwych o waith gan artistiaid o Gymru a thu hwnt.

Sarah Carvell; Lynne Cartlidge; Sacha Craddock; James Guy Eccleston; Lara Davies; Dan Howard-Birt; Des Hughes; Moira Huntly; Lisa Krigel; Kevin Lincoln; Eleri Jones; Jeff McMillan; Wendy Murphy; Claire Langdown; Phil Nicol; Robert Pitwell; Lea Sautin; Helen Sear; Emrys Williams; Clare Woods. Gweld yr arddangosfa.

Mae gwaith Andreas Rϋthi, artist sydd yn wreiddiol o’r Swisdir ond bellach yn byw yn Raglan,yn ganlyniad i ymweliadau â’r Plas dros gyfnod o dair blynedd er mwyn astudio y casgliad o borslen Nantgarw a chynnal sesiynnau gyda gwirfoddolwyr yr oriel.

Gan ddwyn y teitl ‘Lle ar y Bwrdd’, mae’r arddangosfa yn waith newydd gan gynnwys portreadau o’r gwirfoddolwyr gymerodd ran yn y sesiynnau.

I gyd-fynd a ‘Lle ar y Bwrdd’ mae’r Plas wedi sicrhau benthyciad powlen tseini asgwrn a gomisiynwyd gan Syr Love Parry Jones Parry o Fadryn yn 1836 gan Amgueddfa Cymru. Mae arfbeisiau teulu Madryn wedi eu paentio yn gelfydd ar y bowlen.

Hefyd, mae detholiad o waith bywyd llonydd gan Andreas Rϋthi ac 20 o artistiaid gwâdd sy’n dwyn y teitl ‘Trefniannau Bywyd Llonydd’ yn rhan o’r arddangosfa.

Mae Lle ar y Bwrdd yn arddangosfa o waith newydd gan Andreas Rüthi.