Monolog: 'Efa' - Mirain Fflur

Mae Mirain Fflur yn un o'r artistiaid ifanc yn yr arddangosfa 'Gwaddol'. Yma gwelwn osodwaith ganddi yn dwyn y pennawd 'Efa' a ysbrydolwyd gan gyfnod yn gweithio fel artist gweledol gyda Chwmni'r Frân Wen ar y cynhyrchiad 'Anweledig'.

Bydd Mirain yn perfformio monolog yn ei gosodiad dydd Sadwrn, Mawrth 18 am 2 o'r gloch. Croeso i bawb - digwyddiad am ddim.