GWADDOL

Arddangosfa agoriadol 2017

Gwaddol

Yn parhau tan Mawrth 19, 2017

Elin Huws, Sian Alun, Marian Brosschot, Mirain Fflur, Miriam Jones, Cian Owen, Lea Sautin,

Owain Sautin, Elin Lisabeth

Yn agor ein rhaglen arddangosfeydd am y flwyddyn bydd artist ac athrawes leol Elin Huws ynghyd a rhai o’i chyn fyfyrwyr sydd wedi cwblhau graddau mewn celf.
Fe ddaeth Elin Huws o Lanbedrog yn athrawes gelf yn Ysgol Botwnnog yn 2004 wedi iddi gwblhau gradd Meistr ym Mhrifysgol Caeredin yn 2001. Ac er ei bod yn athrawes lawn amser ac yn fam i ddau ifanc mae hi wedi parhau i gynhyrchu ac arddangos gwaith ar hyd a lled Cymru. Mae ei hangerdd at gelf yn amlwg yn cael ei drosglwyddo i’w myfyrwyr gyda nifer ohonynt yn mynd ymlaen i ddilyn graddau celf mewn Prifysgolion led-led Prydain a thu hwnt.


Img 7447Low