Oll A B C D E F G H I J K L M N O P R S T U W Y

Wedi ei ddylwanadu gan ramantiaeth Rodin a Bourdelle, mae cerflunwaith David yn nodedig am ei gydbwysedd a’i osgo clasurol, yn enwedig y synnwyr o symudiad a bywioldeb gaiff yn cael ei ddal yn y ffurf. Mae egni pwerus gwaith David yn ei wthio tu draw i’r addurniadol gan rhoi ymagwedd oesol iddo.

Mae David yn hanu o linach celfyddydol nodedig - roedd Clough Williams-Ellis, y pensaer wnaeth greu pentref Eidalaidd Portmeirion yn hen ewythr iddo. ‘Roedd ei rieni yn artistiaid amatur talentog ac mae ei chwaer, Bronwyn yn grochenydd byd-enwog.

Dechreuodd gerflunio pan yn blentyn a gwerthodd ei gerflun cyntaf, ffigwr o blaster wnaeth ar gyfer ei Lefel A, cyn gadael yr ysgol. Mae’n priodoli’r ffaith iddo ddechrau ar ei yrfa yn gynnar i athro oedd yn “baentiwr yn ôl arfer ond yn gerflunydd wrth natur”. Ar ôl gadael ysgol, derbyniodd David hyfforddiant yn Florence gan yr athro celf enwog, Nerina Simi. Yna aeth ymlaen i dderbyn prentisiaeth mewn cerfio coed cyn ymuno â chymuned o gerfwyr marmor yn Pietresanta, islaw Mynyddoedd Carrara yn yr Eidal. Daeth cyfarfyrddiad ar hap o ferch yn eistedd ar biler yn hedyn ysbrydoliaeth iddo a fyddai’n ddiweddarach yn blodeuo’n arddull unigryw. Sylweddolodd David nad oedd cyfyngiadau cerfio yn ei siwtio a dychwelodd i Lundain er mwyn mynychu Ysgol Gelf Syr John Cass.

Heddiw, mae ei waith mewn casgliadau preifat ar hyd a lled y byd ac i’w weld mewn safleoedd cyhoeddus ac adeiladau o bwys yn amrywio o Scone Palace yn Swydd Perth, i Adeilad IFC yn Shanghai. Fe welir ei gerflun eiconig o’r artist Kyffin Williams tu allan i Oriel Môn yn Llangefni, tra yma, ym Mhlas Glyn-y-Weddw mae ganddo ni’r hardd Louise wrth gwrs. Ym 2019 fe gwblhaodd ei brosiect mwyaf hyd yma pan ddadorchuddiwyd ei gerflun i goffau 75 mlynedd ers glaniadau D-Day yn Ver-sur-Mer, Ffrainc.

Cliciwch i weld gwaith David

Gwaith ar Werth

Cliciwch i weld maint llawn

Squall II/IX

Squall II/IX

£ 13500

56 x 37 cms - Bronze

Reflections IV

Reflections IV

£ 15000

57 x 36 cms - Bronze

Flame II

Flame II

£ 15000

102 x 28 cms - Bronze