Oll A B C D E F G H I J K L M N O P R S T U W Y

Ychydig wedi i Lisa raddio o Goleg Celf Wimbledon yn Llundain, mae’r ferch o Fôn wedi sefydlu’i hun fel un o brif artisitiaid Cymru. Mae i’w gwaith steil unigryw sy’n creu naws ac awyrgylch ac er fod cadernid i’r tirluniau mynyddig mae iddynt hefyd wawl hudolus sy’n eich tynnu i fyd sy’n fwy na’r mynydd, tu draw i ddynoliaeth.

Fel y tystia rhai o’i hastudiaethau cynnar, arferai Lisa ganolbwyntio ar ffurf y corff, gan gyfuno elfennau’n union i’w thirluniau ar adegau. Yn fwy diweddar mae’r presenoldeb dynol wedi diflannu o’r tirlun sy’n caniatau i’r gwyliwr greu ei berthynas ei hun gyda’r olygfa. Yn rhai cyfarwydd neu ddychmygol mae’r golygfaon yn rhoi profiad dyrchafol o le ac amser. Maent hefyd yn ein tywys i fyfyrio – dros fyd natur a dynoliaeth fel y dywed Lisa am ei gwaith -

"Mae fy mheintiadau yn bodoli rhywle rhwng realiti a ffantasi a wedi eu hysbrydoli gan fynyddoedd trawiadol Eryri. Maent yn gyfuniad o lefydd penodol a llefydd dychmygol, a mae naws arallfydol a hudol iddynt.

Mae’r paentiadau wedi eu gosod yn y gorffennol pell - heb lwybrau, heb beilonau na phresenoldeb dynioliaeth. Ceisiaf greu naws heddychlon a thawel mewn byd nas cyffyrddwyd gan weithredoedd Dyn.

Mae nhw’n dirluniau gobeithiol mewn byd sydd bellach mor ansicr ac yn lle di-gariad ar adegau. Pwysleisiaf y pwysigrwydd i beidio â chymryd harddwch ein tirlun yn ganiataol, ac i amddiffyn byd natur ar bob cyfrif.

Mae’r cysgodion yn awgrymu ein bod ni bron yn y tywyllwch gyda phroblemau’r byd cyfoes yn ymddangos yn eithaf difrifol a bod y frwydr rhwng ni a’r byd wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol. Ond, gwelir y goleuni yn treiddio’n bwerus drwy’r awyr, sy’n cynrychioli y gobaith ein bod ni fel pobl am agor ein llygaid, a chymryd gofal o’r byd a’n gilydd cyn iddi fynd yn rhy hwyr.

Mae dringo i gopa’r mynydd yn gallu bod yn anodd, fel llawer o bethau sy’n amlygu eu hunain mewn bywyd. Mae’r tywyllwch yn fy mhaentiadau yn cyfleu y pethau anodd a’r pryderon yma, ond mae cyferbyniad cryf y lliwiau ysgafn yn dangos fod goleuni tu ôl i bob cwmwl a niwl.

Rwy’n cyfuno dau dechneg i gydfynd â‘r elfen o ddeuoliaeth sydd i’r lluniau, sef printio leino a pheintio gyda brws. Mae’r gwead creigiog sy’n cael ei greu gan y leino yn cyferbynnu gyda meddalwch y brws yn y cefndir.

Cliciwch yma i weld gwaith Lisa

Gwaith ar Werth

Cliciwch i weld maint llawn

Uwchlaw Cymylau Amser

Uwchlaw Cymylau Amser

£ 2100

1.05m x 1.35m (unframed) - olew ar gynfas

Astudiaeth 6

Astudiaeth 6

£ 280

amlgyfrwng

Astudiaeth 5

Astudiaeth 5

Gwerthwyd

amlgyfrwng

Astudiaeth 4

Astudiaeth 4

£ 280

amlgyfrwng

Astudiaeth 3

Astudiaeth 3

Gwerthwyd

amlgyfrwng

Astudiaeth 2

Astudiaeth 2

£ 280

amlgyfrwng

Astudiaeth 1

Astudiaeth 1

£ 250

amlgyfrwng

Dan Orchudd Cwmwl - Cadair Idris

Dan Orchudd Cwmwl - Cadair Idris

Gwerthwyd

64.5 x 30cm (unframed) - olew ar gynfas

Tryfan A Chwm Idwal

Tryfan A Chwm Idwal

Gwerthwyd

80 x 35cm (unframed) - olew ar gynfas

Gwrid Y Copaon

Gwrid Y Copaon

Gwerthwyd

1.2m x 48cm (unframed) - olew ar gynfas

Machlud Ar Lyn Padarn

Machlud Ar Lyn Padarn

Gwerthwyd

1m x 40cm (unframed) - olew ar gynfas

Pen Yr Ole Wen

Pen Yr Ole Wen

Gwerthwyd

44 x 28cm (unframed) - olew ar gynfas

Enaid Enlli

Enaid Enlli

Gwerthwyd

45 x 31cm (unframed) - olew ar gynfas

Nes At Y Nefoedd – Yr Wyddfa

Nes At Y Nefoedd – Yr Wyddfa

Gwerthwyd

90 x 40cm (unframed) - olew ar gynfas

Rhywfath O Dduwiau Yn Y Goruchaf

Rhywfath O Dduwiau Yn Y Goruchaf

£ 3250

2m x 1.4m (unframed) - olew ar gynfas

Golau Nerthol - Eryri o Bwllheli

Golau Nerthol - Eryri o Bwllheli

Gwerthwyd

1.3m x 55cm (unframed) - olew ar gynfas

Bydd Goleuni Yn Yr Hwyr (tryptych)

Bydd Goleuni Yn Yr Hwyr (tryptych)

£ 4250

1.2m x 1.3m yr un (unframed) - olew ar gynfas

Mwynder Moel Eilio

Mwynder Moel Eilio

Gwerthwyd

1.1m x 45cm (unframed) - olew ar gynfas