Oll A B C D E F G H I J K L M N O P R S T U W Y

Mae Rachel yn byw ar dyddyn bychan yn Llysfaen ger Bae Colwyn ac mae wedi bod yn arbrofi gyda gwahanol gyfryngau paent ers pan yn blentyn. Enillodd Ddiploma Cenedlaethol BTEC mewn Celf a Dylunio yng Ngholeg Celf Bangor, lle cafodd ei dysgu gan Lesley Jones a Peter Prendergast. Cyn cael ei thri phlentyn bu’n gweithio ym musnes pensaernïol ei thad gan ddilyn cwrs diploma serameg yng Ngholeg Llandrillo, cyn defnyddio’r cyfrwng yna i wneud gemwaith Raku. Mae hi bellach wedi dychwelyd at arlunio a phaentio.

Mae ei gwaith yn dangos ei chariad at y rhan hyfryd hon o Gymru a gafodd ei feithrin yn ystod llawer o wyliau plentyndod yn gwersylla ar Benrhyn Llŷn. Mae'n mwynhau paentio golygfeydd arfordirol a gwledig gan gynnwys ei phraidd o ddefaid a da byw eraill.

Cliciwch i weld gwaith Rachel