“Rwyf yn artist a gwneuthurwr printiadau wedi fy lleoli yn Crewe. Hyfforddais i lefel gradd yn ystod yr 1970’au a dychwelais at baentio wedi i mi gael anaf gan sefydlu fy hun fel artist. Fe wnes gwblhau Gradd Meistr mewn celfyddyd gain yn 2003.
‘Rwyf yn arddangos a gwerthu fy ngwaith trwy arddangosfeydd unigol ac fel rhan o Rwydwaith Artistiaid Sir Gaer, ‘ArtsXstra’ a grŵp celf Outline. Yn ddiweddar ‘rwyf wedi agor siop ar Etsy, y farchnad werthu arlein. Mae fy ngwaith mewn casgliadau preifat a chyhoeddus cyn belled a Norwy.
Mae llawer o fy ysbrydoliaeth yn dod o gerdded arfordir Cymru gan astudio’r modd mae y gwynt a’r tonnau yn erydu y creigiau a nodweddion eraill yr arfordir ynghyd a’r deunyddiau sy’n cael eu golchi fyny ar y traeth. Mae hyn yn darparu ffynhonell gyfoethog o liwiau, gwead a ffurfiau, eu siapiau gwreiddiol wedi eu gwisgo ymaith.
Hoffaf adael i’r arswyladau loetran yn fy nghôf am gyfnod er mwyn cael eu hidlo a’u haniaethu ymhellach er mwyn i’r lliwiau, y gwead a’r siapiau ymddangos ar bapur neu ganfas fel hanfod o realaeth.
Fe gwblheais gwrs meistr mewn Celf Gain yn 2003.
Dwi’n arddangos a’n gwerthu fy ngwaith. Yn ddiweddar, dwi wedi agor siop Etsy ar-lein.
Cliciwch i weld maint llawn