Rwyf wedi fy ngeni a’m magu yn Llanbedrog, Pen Llŷn. Graddiais o adran Paentio a Phrintio Ysgol Gelf Glasgow yn Mehefin 2015.
Wrth wraidd fy ngwaith mae datblygiad y traddodiad chwedlonol yng Nghymru a’r ffordd y mae’n fythol newid. Cafodd y straeon eu perfformio a’u hadrodd ar lafar am ganrifoedd cyn cael eu cofnodi ar bapur, ac yna eu dehongli ymhellach drwy addasiadau, cyfieithiadau a darluniau.
Wedi fy magu yn rhugl dairieithog, rwyf â diddordeb mewn datblygiadau a gwyrdroadau wrth symud o un cyfrwng neu iaith i’r llall. Er mwyn creu fy mhrintiau rhof fy nehongliad o bytiau o straeon drwy gadwyn o brosesau (torlunio pren, argraffu sgrin, creu modelau, ffotograffiaeth, ysgythru a boglynwaith). Mae pob cam yn y broses hon yn adlewyrchu trawsnewidiadau o fewn y chwedlau gwreiddiol.
Y canolbwynt yw crefft y storiwr beth bynnag yw ei gyfrwng. Nid oes rhaid adnabod y straeon, gan mai’r bwriad yw caniatau i’r sawl sy’n edrych ar y gwaith greu ei naratif ei hun trwy ei ddehongliad o’r cyfresi o ddotiau a llinellau sy’n ffurfio iaith printio.
Dwi mor ddiolchgar am yr holl gyngor gefais gan Elin tra yn yr ysgol, ac yr holl gyngor dwi wedi ei gael ers hynny. Mae ei brwdfrydedd am Gelf a'i hagwedd bositif yn heintus a dwi'n cofio dod adra o'r ysgol yn ysu i gael dal ati gyda'r gwaith roeddwn i wedi ei ddechrau yn y dosbarth. Hyd heddiw mae sgwrs hefo Elin yn rhoi awydd i mi fynd ati i greu!
Cliciwch i weld maint llawn