Oll A B C D E F G H I J K L M N O P R S T U W Y

Mae Jenny Ryrie yn arbenigo mewn dyfrlliw. Mae ganddi M.A. mewn Celfyddyd Gain o Gaeredin, mae’n aelod o Gymdeithas Artistiaid Brenhinol Birmingham ac yn Gydymaith o Gymdeithas Celfyddydau Penwith. Mae hi wedi arddangos ei gwaith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ers blynyddoedd lawer ac wedi ei lleoli ger Caer ar y ffin â Chymru, ond mae ganddi hefyd stiwdio yng Nghernyw.

Mae Jenny wedi arddangos ei gwaith gyda’r Thackeray Gallery yn Llundain a Kingfisher Gallery yng Nghaeredin, ac am nifer o flynyddoedd bu ganddi gyfres o sioeau unigol gyda Canyon Road Contemporary Art yn New Mexico, U.S.A. Mae arddangosfeydd unigol diweddar eraill yn cynnwys ‘Watershed’ gyda’r Belgrave Gallery yn St Ives, Cernyw, a 'Golau a Dwfr' ym Mhlas Glyn-y-Weddw. Ar hyn o bryd mae'n arddangos gydag Oriel yr Ynys, St.Ives.

Mae ei ffocws ar ddyfrlliw yn dilyn traddodiad hir yn ei theulu sy'n mynd yn ôl bum cenhedlaeth. Ei nod yw gwthio ffiniau’r cyfrwng ac archwilio ei botensial ar gyfer mynegiant trwy ei rinweddau unigryw o dryloywder a hylifedd.

Cliciwch yma i weld y gwaith ac i archeu ar lein