Oll A B C D E F G H I J K L M N O P R S T U W Y
Mae James Naughton yn un o brif arlunwyr tirlun cyfoes y DU ac mae wedi arddangos yn helaeth yn Llundain ynghyd ag ar hyd a lled y wlad. Yn dilyn magu cariad at gelf yn ystod ei blentyndod bu i James Naughton dderbyn Gradd Dosbarth Cyntaf ym Mhrifysgol Metropolitan Leeds yn 1994, ac ers hynny mae wedi mwynhau gyrfa anhygoel gan ddatblygu yn un o arlunwyr tirlun mwyaf llwyddianus Prydain. Dywedir yn aml bod paentiadau James Naughton yn creu profiad emosiynol, ysbrydol hyd yn oed ar brydiau, ond mae’n well ganddo beidio a chysylltu ystyr bendant i’w waith, mae’n hoffi i’w luniau siarad drostynt eu hunain gan adael i’r unigolyn sy’n edrych arnynt greu dialog bersonnol gyda hwy.

Cliciwch i weld gwaith James