Wedi'i eni a'i fagu ym Mhorthmadog mae Carwyn Jones yn ffodus i gofio rhai o'r cymeriadau morwrol lleol. Fe’i cyfareddwyd gan y golygfeydd a’r celf gwerin ar eu waliau. Llongau mewn poteli, ‘dioramas’, paentiadau a ‘scrimshaw’. Pob darn o waith gyda stori wahanol i'w ddweud.
Er pan yn ifanc iawn, roedd yn cael ei wibio ymaith gan y darnau hyn o gelfyddyd gwerin a phenderfynodd i gadw'r traddodiadau yn fyw trwy fynd at i greu ei ddarnau ‘asgerfio’ ei hun. Mae fel arfer yn gweithio ar doriadau o esgyrn y mae’n yn dod ar eu traws yn y gwyllt neu hen esgyrn ar ôl i’r ci orffen gyda nhw – ffordd wych o greu celf o eitemau gwastraff. Mae hefyd yn cerfio darnau ar gnau Tagua o’r goeden palwydd ifori.
Efalli i rai ohonch fod yn gyfarwydd a Carwyn fel y ‘Dyn Gwyllt’ o gyfresi S4C lle mae’n byw a goroesi yn hunangynhaliol yn yr awyr agored – gyda’i gi ffyddlon Gwen wrth ei ochr.
Mae ei lyfr, Llawlyfr y Dyn Gwyllt ar gael wedi ei gyhoeddi gan Wasg Gomer.
Cliciwch i weld maint llawn