Ganed Heather Duncan yn Swydd Efrog ac astudiodd Gynllunio Pensaernȋol ym Mhrifysgol Metropolitan Leeds, gan raddio yn 1998. Symudodd yn y flwyddyn honno i’r Unol Daleithau lle bu yn byw am ddwy flynedd. Cafodd ei denu yn ol adre gan ei chariad tuag at dirlun Gogledd Lloegr, a dechreuodd ar ei gyrfa fel artist, yn arddangos yng Ngogledd a Chanolbarth Lloegr. Erbyn 2009 roedd ganddi arddangosfeydd yn Llundain a gosodiadau mewn casgliadau preifat yn y DU, Ffrainc, Yr Almaen a’r UDA.

Cliciwch i weld gwaith Heather