Oll A B C D E F G H I J K L M N O P R S T U W Y

Ganed Deborah yn Sir Gaerhirfryn yn 1964. Fe astudiodd ddylunio tecstiliau ym Mhrifysgol John Moores yn Lerpwl gan ennill anrhydedd gradd baglor yn 1985.

Fe ddewisodd aros yn y ddinas gan barhau gyda’i chariad cyntaf o beintio gyda phaent olew.

Mae ei gwaith yn dal i gael ei ddylanwadu gan ei gwybodaeth o decstilau. Gwelir hyn trwy ei defnydd o haenau paent ar y canfas.

Mae nifer o alw wedi bod am waith Deborah, ac felly fe benderfynodd droi yn artist llawn amser, sydd wedi bod yn arddangos ei gwaith ers 2000.

Mae hi bellach yn gweithio ac yn arddangos yn ei galeri/stiwdio ei hun yn Lerpwl ac yn dangos ei gwaith yn genedlaethol.

Mae gwaith Deborah yn unigryw iawn gyda galw mawr amdano. Mae ganddi’r gallu i ddehongli harddwch ein hamgylchedd gyda phalet lliw eang., mewn ffurfiau realaeth a haniaethol. Mae hi’n aml yn gwerthu ei gwaith i gasglwyr cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae ei chariad tuag at arfordiroedd a thirweddau Cymru, Cernyw a’r Alban yn un o’r prif ffynhonnellau sy'n ei hysbrydoli.


Cliciwch i weld gwaith Deborah