Oll A B C D E F G H I J K L M N O P R S T U W Y

“Astudiais Hanes Celf yn y Courtauld Institute ac yn ddiweddarach dechreuais baentio wedi treulio amser yn adfer paentiadau y Meistri Iseldiraidd ac yn gweithio mewn ffilm. ‘Rwy’n byw mewn tŷ ger y môr yng Ngogledd Cymru ac mae fy mhaentiadau yn ymateb o’r enaid i fod wedi fy amsuddo i’r amgylchedd yma.

“Mae’r awyr, môr a’r tir sydd yn newid yn barhaus yn ffynhonnell ar gyfer fy ysbrydoliaeth a defnyddiaf hwy fel Sylfaen er mwyn creu golygfa ar gyfer tirlun dychmygol sydd yn dal awyrgylch. Gweithiaf yn bennaf mewn olew gan fod y cyfrwng yma yn rhoi y digleirdeb gorau ac mae golau yn holl bwysig pan yn creu golygfa. Pan nad wyf yn paentio golygfeydd, mae’r gwagle a’r modd y mae’n cael ei lenwi yn mynd a’m holl sylw yn ogystal a’r gwrthrych a cheisiaf adael pethau mor agored a phosibl er mwyn i’r sawl sy’n edrych arnynt ei ddehongli fel y dymunant.”

Cliciwch i weld gwaith Karen