Mae Bob Armstrong yn gweithio o’i stiwidio yn Fotherby ger Louth. Mae’n paentio tirluniau o rannau gwyllt o Brydain yn bennaf. Mae wrth ei fodd yn cerdded y gweundiroedd, y mynyddoedd a’r arfordir gyda’i lyfr braslunuio a’i bensiliau.
Dros y blynyddoedd mae’r brasluniau yma wedi datblygu yn ddyddiadur gweledol sy’n ei alluogi i gael syniadau ac ysbrydoliaeth.
“Mae gennyf ddiddordeb arbennig yn y modd mae dyn yn ceisio dylanwadu ar y tirlun ac yn aml wedi methu wrth i natur adennill chwareli a hen fythynod carreg.”