CV Artist

Ray Wilkinson

Artist Picture

Datganiad yr Artist

Yn y 1960au bum yn astudio celf a phensariaeth yng Ngholeg Harris yn Preston, cyn treulio’r 30 mlynedd ddilynol dramor. Bu i’m cariad at Gymru ddwysau pan ddychwelais adref, a bu imi ganolbwyntio unwaith eto ar ei thir a môr.

Ond, ysywaeth, mae’r ‘athritis’ sy’n fy mhoeni yn achosi mwy o rwystr i gerdded y tir a’r glannau, ac yn ei gwneud hi’n anodd i mi weithio yn yr awyr agored; mae hefyd yn cyfyngu ar fy ngwaith stiwdio. Rhaid i mi bellach weithio am lai o oriau, ac am lai o ddyddiau pob wythnos. Rwyf bellach yn canolbwyntio ar luniau llai o faint gan na allaf ymdopi a gwaith ar raddfa fawr.

O ganlyniad, mae fy ngwaith yn fwy hunan-ymchwiliol a dwys, yn fwy dibynnol ar y côf ac emosiynnau yn fy ymdrech i gynrychioli y tirwedd, y moroedd ac yn arbennig y golau yng Nghymru.

contact@raywilkinson.com
www.raywilkinson.com

Cysylltu

I gysylltu â ni defnyddiwch:

» Ffurflen Ymholi

» Tudalen Gysylltu

» Ymwadiad Safle

© Oriel Plas Glyn-y-Weddw 2008

Top