Graddiodd Therese Urbanska o Goleg Menai yn 2004 – un o’r myfyrwyr cyntaf i gwblhau y cwrs Celfyddyd Gain newydd a gynigir yno mewn partneriaeth â Choleg NEWI Wrecsam. Enillodd “Wobr yr Artist Ifanc” yng nghystadleuaeth celf Hud a Lledrith Llŷn yn 2004 gyda’i darlun “Dacw’r Bwthyn Gwyn” (gyferbyn) – gwaith aml gyfrwng. Dangoswyd ei gwaith yn yr un arddangosfa yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn 2002 a hefyd arddangosfa agored Canolfannau Wrecsam 2003-4.
Ers hynny mae Tess wedi cynnal sawl arddangosfa unigol llwyddianus yng Nghymru gyda arddangosfa lwyddianus iawn yma ym Mhlas Glyn-y-Weddw yn 2006.
Y mae celfyddyd ar hyn o bryd yn obsesiwn i mi; nid galwedigaeth yn unig, ond ffordd o fyw. O’m plentyndod bu’r act o greu yn bwysig i mi ac ni allaf ddychmygu bywyd hebddo. Serch hynny, ni fu hyn yn rhwydd i mi, ond brwydr galed ar adegau i gynnal hunan hyder yn fy ngwaith. Bu’r addysg a gefais yn y cylch, a’r hyfforddiant o Lefel A ymlaen o ddylanwad cadarnhaol iawn ar fy natblygiad fel artist gan roddi hyder i mi i barhau i gredu yn fy nghelfyddyd. Y mae fy ngwreiddiau yn bwysig iawn i mi, a Llŷn yn ysbrydoliaeth arbennig.
Yn ddiweddar bum yn gweithio mewn cyfryngau cymysg ac yn araf datblygu fy iaith gelfyddydol fy hun. Seilir llawer ohono, mewn dull haniaethol, ar bensaernïaeth megis yng Nghastell Penrhyn neu eglwysi’r cylch. ‘Rwy’n mwynhau gweithio ar bapur ac ar gynfas gan ddefnyddio paent, sercol, inc a chollage. Caf weithio oddi mewn i ffurf gosod yn anodd gan nad yw cyfansoddiad llun yn dod yn naturiol i mi. Byddaf felly yn llythrennol yn rhwygo’r cynfas yn ddarnau gan newid ffurf yn gyson nes dod o hyd i’r hyn sy’n foddhaol. Y mae’n ddull cynhyrfus o weithio gan nad yw diwedd y broses yn glir.
I mi mae gwerthoedd esthetig yn ganolog, a gall fy nelweddau weithiau fods yn eithaf addurnedig – yn dibynnu ar natur y symbyliad. Ni wn yn iawn sut i ddiffinio fy ngwaith, ond credaf fod ynddo elfennau haniaethol o giwbyddiaeth, mynegiaeth a hyd yn oed adeiladaeth.
Aml 13x13
£95
Aml 13x13
£95
Aml 13x13
£95
Arddangosfa o Luniadau: Nadolig 2008
Drwy Gyfenw