Ganed William Selwyn yng Nghaernarfon ym 1933. Ym 1954, ar ôl treulio dwy flynedd o Wasanaeth Cenedlaethol gyda’r Royal Artillery, astudiodd yn Y Coleg Normal, Bangor tan 1956. Wedi hynny bu’n athro yn Ysgol Iau Maesincla ac Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon hyd ei ymddeoliad ym 1990.
Canolbwynt ei waith celf yw tirlun Gwynedd – ei gweithwyr fferm a’i physgotwyr. Mae’n aelod o Academi Frenhinol Cambrian, ac yn ennillydd yr 11eg Arddangosfa singer a Friedlander/Sunday Times ym 1988 am ei ddyfrliw o Fwlch Llanberis, ac hefyd Arlunydd Cymreig y Flwyddyn 2001. Enillydd Hyd a LLedrith Llŷn, 2003.
Mae Cyngor Gwynedd a Cyngor Ynys Môn, ynghyd â Phrifysgol Cymru Bangor, Cyngor y Celfyddaydau, Prifysgol Bath, a Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gyd yn berchen ar ei luniau – ac felly’n wir mewn nifer o gasgliadau preifat yng Nghymru a thramor.
Mae wedi arddangos yn eang – yn yr Academi Frenhinol Cambrian, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Academi Brenhinol Gorllewin Lloegr, Cymdeithas Frenhinol Artistiaid Prydeinig, Oriel Tegfryn ym Mhorthaethwy, Yr Albany Gallery yng Nghaerdydd, Oriel Tibb Lane ym Manceinion, Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn Llanbedrog, Oriel John Davies yn Stow on the Wold, Y Mynydd Gwefru yn Llanberis, Oriel Arfon yng Nghaernarfon ac Oriel Thackeray, Llundain.
Aml 24.5x21
£1,200
Aml 24.5x21
£1,200
Aml 31x25
£Pr2,850ice
W/C 22.5x19”
£1,750
Aml 30x24
£3,250
Aml 16.5x14
£680

Aml 25x21
£1,750
Aml 17x14.5
£600
Aml 25x20
£2,500
Aml 22x18.5
£1,500
Aml 16.5x14.5"
£675
Aml 16.5x14.5"
£675

Aml 16.5x14.5"
£650
Aml 16.5x14.5"
£675
Aml 16.5x14.5"
£600
Aml 16.5x14.5"
£1,650
Aml 35.5x28"
£3,800
Maint"
£Pris
Arddangosfa o Luniadau: Nadolig 2008
Drwy Gyfenw