CV Artist

Luned Rhys Parri

Artist Picture

Datganiad yr Artist

Mae galw cynyddol gan gasglwyr preifat ac orielau am waith yr artist broffesiynol hon. Enillodd nifer o wobrau yn y gorffennol, ac y mae wedi ei arddangos ledled Cymru a thu hwnt – yn fwyaf diweddar yn Oriel Môn ac Oriel Tegfryn ym Miwmares. Mae'n parhau i fwynhau cyfnodau fel artist preswyl mewn amrywiaeth o sefydliadau, gwyliau ac ysgolion – profiadau sy'n dod â hi i gysylltiad â llu o bobl o wahanol gefndiroedd. Y profiadau hynny sy'n cyfoethogi llawer o’r gwaith a gyflawnir ganddi yn ddiweddarach yn nhawelwch ei stiwdio.

Yn ei gwaith diweddar gwelir nodweddion tri dimensiwn amlwg. Mae hi ar ei gorau yn trin defnyddiau cyffredin fel tun ffoil, cardbord, papur a gwifren, gan eu cyfuno â phaent i greu delweddau sy’n cyfleu atgofion o’i phlentyndod a’i chefndir yng nghefn gwlad a threfi Cymru. Ond er gwaethaf y diddordeb hwn yn y cerfweddol, dywed mai peintwraig ydyw yn y bôn, a dichon y bydd y cyfnod nesaf yn ei gyrfa yn cynhyrchu dilyniant o weithiau dau ddimensiwn.

Cysylltu

I gysylltu â ni defnyddiwch:

» Ffurflen Ymholi

» Tudalen Gysylltu

» Ymwadiad Safle

© Oriel Plas Glyn-y-Weddw 2008

Top