CV Artist

Colin Palmer

Artist Picture

Datganiad yr Artist

Ganwyd Colin Palmer yn Ne Penfro a derbyniodd radd mewn Celfyddyd Gain o Goleg Abertawe ym 1954. Dechreuodd yrfa dysgu yn Ysgol Esgob Gore, Abertawe cyn symyd i Ysgol Ramadeg y Beuno fel pennaeth yr adran gelf. Pan symudodd yr Ysgol i Harlech gydag enw newydd, Ysgol Ardudwy, symudodd Colin hefyd ac arhosodd yno nes iddo ymddeol ym 1991. Bu Colin yn ogystal yn safonwr arholiadau mewn Celf a Dylunio gyda CBAC am dros 25 mlynedd.

Yn ystod ei gyfnod dysgu, roedd Colin yn dal i beintio ond nid oedd yn arddangos ei waith yn aml. Ers 1991 mae wedi bod yn paentio’n rheolaidd ac wedi cael nifer o arddangosfeydd unigol yng Ngogledd Cymru a thair arddangosfa ar y cyd yn Oriel Plas Glyn y Weddw. Yn ystod y cyfnod yma mae ei waith wedi amrywio o’r cynrychiadol i’r haniaethol; ond mae’r cyfan o’i waith wedi ei ysbrydoli gan ei fywyd yng Ngwynedd.

Rhyw flwyddyn yn ôl, dechreuodd ar raglen o waith yn ymwneud â’r diwydiant llechi yng Ngwynedd. Yn ddiweddar, mae wedi ymestyn ei waith ymchwil i ystyried natur llechi fel defnydd crai lle y gall rhywun ddarganfod patrymau, siapiau a gwedd.

“Wrth rodio pentyrrau y gwastraff llechi ar Rhosydd, dwi’n gweld wrth fy nhraed tirlun sy’n fwy diddorol na’r hyn a welaf wrth edrych tua’r gorwel”.

Gwaith Ar Werth »

Arddangosfa Mawrth 2008

Drwy Gyfenw

Cysylltu

I gysylltu â ni defnyddiwch:

» Ffurflen Ymholi

» Tudalen Gysylltu

» Ymwadiad Safle

© Oriel Plas Glyn-y-Weddw 2008

Top