Mae John Meirion Morris yn un o brif gerflunwyr Cymru gyda’i waith mewn casgliadau preifat a chyhoeddus ym mhedwar ban byd. Fe anwyd ef yn 1936, yn fab i siopwr yn Llanuwchlyn, ger y Bala. Mae’n cydnabod yn gyson y dylanwad cymdeithasol a diwylliannol sydd arno o’i ardal enedigol.
Mynychodd yr artist Goleg Celf Lerpwl, lle cafodd gefndir a hyfforddiant yn y traddodiad clasurol. Yno roedd pwyslais cryf ar ddarlunio a modelu byw. Arhosodd flwyddyn ychwanegol i gwblhau cwrs ôl-radd cyn cymered cwrs tystysgrif Addysg, dan nawdd Prifysgol Lerpwl, yn 1961.
Cychwynnodd ei yrfa fel athro celf yn Llanidloes, lle bu yn dysgu am dair blynedd. Yn 1964 cafodd swydd darlithydd yn Ysgol Gelf Leamington Spa, yn Lloegr, ond yn 1966 penderfynodd fynd i Affrica. Yno fe gafodd swydd fel darlithydd ym Mhrifysgol Kumasi, Ghana. Bu'r profiad o weld cerfluniau symbolaidd, iconau crefyddol a dawnsio beiddgar y bobl gynhenid yn ddylanwad mawr arno gan ei atgoffa o bwysigrwydd traddodiadau barddol a cherdd dant yn ôl yng Nghymru.
Yn 1968 dychwelodd yn ôl i Gymru a chafodd swydd fel darlithydd mewn cerflunio ac addysg celf ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ynghyd â darlithio bu’n dylunio setiau ac yn cyfarwyddo dramâu gyda myfyrwyr yn Theatr y Werin. Ar ôl un mlynedd ar ddeg o ddarlithio yn Aberystwyth, rhoddodd gorau i’w swydd er mwyn canolbwyntio ar gerflunio. Er hyn, yn 1985, fe roedd y dynfa i addysgu yn ei ôl, a dychwelodd i fyd darlithio fel pennaeth adran gelf yng Ngholeg Normal, Bangor. Yn 1990 penderfynodd ymddeol go iawn, ac ers hynny cerflunio yw ei fryd.
Efydd
£4,500
Efydd, coed a phapur
£5,000
Efydd
£6,000
Efydd, coed, dillad ac esgidiau
£60,000
Efydd, llechen a phres copor
£4,000
Efydd
£3,000
Efydd a defnydd
£5,000
Efydd
£3,000
Efydd a llyfrau
£3,500
Efydd
£3,000
Efydd, pren a hoelion
£40,000
Efydd
£60,000
Bronze
£1,500