Ganwyd Eleri Mills yng Nghymru yn 1955. Magwyd hi ar fferm, lle treuliai ei hamser yn cynorthwyo ei thâd gyda’r anifeiliaid, tra bod ei mham yn ei thrwytho yn nhraddodiadau barddonol Cymru. Aeth i Fanceinion i gyflawni BA (Anrhydedd) mewn Celf a Dylunio, ac yn ystod y cyfnod yma magodd ddealltwriaeth o hanes Cymru a roddodd ysbrydoliaeth i’w gwaith. Pan ddychwelodd i Langadfan ddeng mlynedd yn ddiweddarach, roedd yn ymroddedig I fynegi ei chariad at ei gwlad trwy ei lluniau. Ers hynny, mae yn rhannu ei hamser rhwng y fferm, y teulu a phaentio.
Mae gwaith Eleri yn unigryw, ac mae’n feistr ar greu darnau wedi eu pwytho â llaw yn ogystal â lluniau amlgyfrwng, sydd bob amser wedi eu creu yn ofalus a thrylwyr, a bob amser yn ymwneud â Chymru. Yn ei gwaith, mae yn symud yn rhwydd rhwng pwytho a darlunio, gyda’i chariad at dirlun ei chyndadau wastad yn y cefndir.
Mae Eleri yn aelod etholedig o Academi Frenhinol y Cambrian ac mae wedi arddangos yn y Deyrnas Unedig ac America. Ceir llawer o’i gwaith mewn casgliadau preifat.
Aml 36x28
£2,200
Golosg ar bapur 40x14”
£950
Golosg ar bapur 28.5x22”
£950
Golosg ar bapur 28.5x22”
£950
Golosg ar bapur 19.5x16.5
£750
Golosg ar bapur 19.5x16.5
£750
Ysgythriad 37.5”x12”
£625
Ysgythriad A/P III 22x18.5
£450
Ysgythriad 8/15 22x18.5
£400
Arddangosfa Gorffennaf 2008
Drwy Gyfenw