CV Artist

Karel Lek

Artist Picture

Datganiad yr Artist

Daeth aflwydd y rhyfel diwethaf â mi yn fachgen 11 oed o Antwerp i Ogledd Cymru, ac yma rwyf wedi byw ers 64 o flynyddoedd. Weithiau, meddyliaf os yw hyn yn rhoi’r hawl i mi alw fy hun yn Gymro! Derbyniais fy addysg yn Ysgol Ramadeg Friars ym Mangor, ac oddi yno es ymlaen i Goleg Celf Lerpwl.

Rwyf yn peintio’n barhaus, ac yn canolbwyntio ar fy nghyd-ddyn fel prif ffocws fy ngwaith – yn portreadu cymeriadau lu mewn unrhyw sefyllfa, boed yn drefol neu yng nghefn gwlad. Nid ydwyf chwaith yn diystyru prydferthwch naturiol yr amgylchedd sydd o’m cwmpas – yn wir rwyf yn hoff iawn o’r amser newid tymor rhwng yr hydref a’r gaeaf.

Paent ac inc yw fy ffordd i o gyfleu fy nheimladau – a beth bynnag yw barn pobl am fy ngwaith, dwi’n hynod obeithio y gall unrhyw un gydnabod fy mod yn ceisio fy ngorau glas i gyfleu gonestrwydd a theyrngarwch.

Cysylltu

I gysylltu â ni defnyddiwch:

» Ffurflen Ymholi

» Tudalen Gysylltu

» Ymwadiad Safle

© Oriel Plas Glyn-y-Weddw 2008

Top