CV Artist

Tom Jones

Artist Picture

Datganiad yr Artist

Ganwyd Tom Jones yn 1936 ym Mae Colwyn lle mae’n byw o hyd. Mae profiad eang o’r byd celfyddydol ganddo;cafodd ei arddangosfa gyntaf yn yr RCA pan ond yn 22 oed.

Aeth i Brifysgol Lerpwl cyn dechrau ei yrfa fel pensaer, gan barhau yn y gwaith nes ei ymddeoliad yn 1992. Daeth yn aelod o’r RCA ym 1996 ac heddiw mae’n drysorydd i’r corff hwnnw.

Roedd yn cynhyrchu gwaith celf yn ystod ei yrfa pensaernïol, gan gael ei anrhydeddu yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon ym 1959. Ers y 90au mae wedi arddangos ei waith yn rheolaidd trwy Gymru a Lloegr: arddangosfeydd ar y cyd ar Ynys Manaw ac yn Lerpwl, Plas Glyn y Weddw, Abergele a Bangor, a sioeau unigol yn Llandudno a Chonwy.

“Wedi cael fy hyfforddi, a dilyn gyrfa fel pensaer, mae’n naturiol i mi ganolbwyntio fy narluniau, peintiadau ac ysgythriadau ar adeiladau a’r amgylchedd. Rwy’n cael fy hudo gan y patrymau a geir gan adeiladau a’r byd o’m cwmpas, a thrwy fy ngwaithrwy’n gobeithio helpu eraill i weld y byd fel rydw i’n ei weld o fy hun.”

Cysylltu

I gysylltu â ni defnyddiwch:

» Ffurflen Ymholi

» Tudalen Gysylltu

» Ymwadiad Safle

© Oriel Plas Glyn-y-Weddw 2008

Top