Arlunydd o Ynys Môn, gyda thir a glannau’r ynys a mynyddoedd Eryri yn bresenoldeb cryf yn ei waith yw Huw Gareth Jones.
Maent yn lluniau olew pwerus, ysbrydol yn seiliedig ar sylwi manwl ar ei amgylchedd. O ran techneg, mae yna bwyslais ar wthio ymylol y broses o beintio, gydag amrywiaeth yn arwynebedd y paent yn cyfleu ehangder o deimladau.
Gyda phaent trwchus neu denau, gweadau amrwyiol, peintio llac a hamddenol neu wyllt a greddfol, mae’n creu gwaith llawn mynegiant a theimlad. Mae’r gwaith yn pontio’r traddodiadol a’r modern ac yn cysylltu hefo pobol mewn sawl ffordd.
Drwy Gyfenw