Graddiodd Elin Huws, yn wreiddiol o Lanbedrog, o Brifysgol Celf Caeredin yn 1999 gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Tapestri. Wedi ennill gwobr Ysgoloriaeth Artist Ifanc yn Eisteddfod Genedlaethol yn 1999, mi aeth yn ôl i astudio gradd meistr yn yr un brifysgol yn 2001.
Wedi dychwelyd i Ogledd Cymru, mae hi’n creu gwehyddiadau tapestri wedi’i ysbrydoli gan dirluniau, morluniau a barddoniaeth Cymru.
“Gan ddefnyddio natur gyfoethog ac amrywiol gwlan, rwyf yn creu gwaith wedi’i wehyddu sy’n pwysleisio’r berthynas rhwng dyfnder a thôn, symudiad a llonyddwch. Gan archwilio syniadau drwy luniadu a pheintio, nid yw fy ‘ngwaith yn gyfieithiad llythrennol o'r hyn rwy’n gweld, ond yn hytrach yn ddarnau gorffenedig sy’n drosiadol ac yn delio gyda’r cof, yn ogystal a theimladau mewnol tuag at le.”
Mae Elin wedi arddangos yn yr Ariannin, Siapan, Hwngari, Yr Almaen, Caeredin a Llundain. Mae hefyd yn arddangos yn rheolaidd o amgylch Cymru.
Aml 27.5x30
£995
Aml 25x27.5
£995
Aml 33x24
£1,050
Aml 22x23
£850
Aml 23x23
£850
Aml 23x24
£850
Tapestri 60x52cm
£850
Tapestri 350x260cm
£3,000
Tapestri 37x40”
£1,900
Aml 19.5x14.5”
£325
DEL 16.5x16.5”
£325
DEL 17.5x18”
£325
DEL 17.5x18”
£325
DEL 19.5x15.5”
£300
Arddangosfa o Luniadau: Nadolig 2008
Drwy Gyfenw