CV Artist

Graham Hembrough

Artist Picture

Datganiad yr Artist

Mae Graham wedi bod yn gweithio fel ffotograffydd celf cain a dyluniwr graffeg ers 27 mlynedd. Mae’r prosiect hwn yn drobwynt iddo yn ei waith ac yn archwilio’r posibliadau ehangach a ddaw wrth gyplysu ffotograffiaeth a chyfryngau traddodiadol celfyddydol.

Seilir “Llanddwyn: Eiliadau mewn Amser” ar dir a mor un ardal ddaeaeryddol ar lan ddeheuol Sir Fôn ger Niwbwrch, sef Ynys Llanddwyn a thraeth Malltraeth, ond mae Graham wedi enwi ei brosiect yn Llanddwyn am mai dyna oedd canolbwynt ei grwydriadau, gyda’r ynys yng nghil ei lygaid o hyd.

Mae rhan o’r gwaith presennol yn ddelweddau wedi’u hadeiladu am fod yr artist ag awydd i ehangu ar ei waith cynharach fel ffotograffydd dogfennol a thiriaethol wrth archwilio posibliadau digidol a’u cysylltu â’i ddiddordeb mewn collage a montage ffotograffyddol. Datblygodd peth o’r gwaith trwy gyd-weithio gyda’r artistiaid Sian Hutchinson a Jacha Potgieter er mwyn cyplysu cyfryngau traddodiadol celf gyda’i ffotograffau a’i arbrofion gyda phosibiliadau digidol.

Nid astudiaethau tirluniol yn unig yw delweddau Graham; maent hefyd yn cynrychioli agweddau o’r amgylchedd, cofiannau ac weithiau yn cyfeirio at chwedloniaeth lleol. Felly mae’r gwaith hwn gan Graham yn mynd a chi ar daith i edrych ar natur ei ardal ddewisol ac i gysidro gwrthdrawiad dyn â hi.

Gwybodaeth bellach ynglŷn ar artist:

www.llanddwyn.co.uk
www.axisweb.org
www.artswales.org

Gwaith Ar Werth »

Arddangosfa Ebrill 2008

Drwy Gyfenw

Cysylltu

I gysylltu â ni defnyddiwch:

» Ffurflen Ymholi

» Tudalen Gysylltu

» Ymwadiad Safle

© Oriel Plas Glyn-y-Weddw 2008

Top