CV Artist

Roland George

Artist Picture

Datganiad yr Artist

Ganwyd Roland George yn Wrecsam , Sir Ddinbych yn 1961. Rhwng 1980 a 1986 bu yn astudio dylunio tri dimensiwn yng Ngholeg Celf a Dylunio Clwyd, gan arbenigo mewn gemwaith a Chelf Gain. Am y ddeng mlynedd olynol bu iddo gychwyn busnes ei hun fel gemydd ac eurof, gan arddangos yn Ewrop a’r Deyrnas Unedig a gyda chwsmeriaid o bedwar ban byd.

Ers iddo symud i Ogledd Cymru ddeuddeg mlynedd yn ôl, mae wedi troi at gerfluniaeth, gan newid ei ddefnyddiau o aur ac arian i garreg a choed.

Mae’n byw ger Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog. Cafodd hyffoddiant gan y cerflunydd David Nash RA ac mae’n dal i gerfio pren gyda llif gadwyn. Mae’n torri’r pren cyn iddo aeddfedu er mwyn i’r cerflun barhau i newid ar ôl y cerfio.

Yn ddiweddar, mae wedi bod yn gweithio gyda charreg, ac ar ôl arbrofi gyda sawl math o gerrig gwahanol, mae nawr yn canolbwyntio ar ddefnyddio’r weithfaen lleol fel ei brif gyfrwng. Mae hynafiaeth y garreg hon yn apelio’n fawr ato.

Mae ei gerfluniau mewn carreg yn cael eu hysbrydoli’n aml gan y tirlun; mae hyn yn wir hefyd am lawer o’i waith mewn coed.

Gwaith Ar Werth »

Arddangosfa Mawrth 2008

Drwy Gyfenw

Cysylltu

I gysylltu â ni defnyddiwch:

» Ffurflen Ymholi

» Tudalen Gysylltu

» Ymwadiad Safle

© Oriel Plas Glyn-y-Weddw 2008

Top