CV Artist

Beth Fletcher

Artist Picture

Datganiad yr Artist

Ganwyd Beth Fletcher yn Birmingham ym 1981. Astudiodd ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle enillodd radd BA yn 2002 ac MA yn 2004 mewn Celfyddyd Gain. Mae hi wedi bod yn arddangos ei gwaith ers iddi gychwyn ei chwrs gradd, mewn arddangosfeydd unigol a grŵp trwy Gymru a Lloegr, gan gynnwys Llundain, Birmingham, Amwythig, Oriel Plas Glyn-y-Weddw, Caerdydd ac Aberystwyth.

Wrth fyw yng Nghymru roedd hi’n arfer peintio aberoedd a glannau môr Ceredigion. Yn wir mae glannau môr ac aberoedd yn ail-ymddangos yn ei gwaith ac yn ymgorffori natur symyd, golau a gofod.

“Rwy’n troi fy mhrofiad o dirlun i fod yn weladwy, gan ddisgrifio ymateb aml-synhwyrys i batrymau cyfnewidiol golau, tir a dŵr mewn ffurf hudol y paent. I mi mae peintio yn ymwneud nid yn unig â gweld ond hefyd â chyffyrddiad; yn ymwneud â theimlad a chôf i’r un graddau â bwriad a phenderfyniad.”

Cysylltu

I gysylltu â ni defnyddiwch:

» Ffurflen Ymholi

» Tudalen Gysylltu

» Ymwadiad Safle

© Oriel Plas Glyn-y-Weddw 2008

Top