Ganwyd ym Mryste ym 1982 a chafodd ei magu yng nghhefn gwlad Gwlad yr Haf. Roedd ganddi gariad tuag at gelf o’i phlentyndod a dechreuodd arlunio’n gynnar iawn, gan ddatblygu ei sgiliau darlunio a phaentio dros amser ac yn ennill gradd mewn Celf Gain.
Symudodd i Gymru yn 2006, gan fyw gyda’i nain a’i thaid er mwyn rhoi mwy o’i hamser at ei gwaith.
Yn Rhagfyr 2007, aeth i fyw a gweithio ar fferm fach ger aber y Fawddach.
Mae’r bywyd newydd yma wedi achosi newid yn ei gwaith sydd rwan yn canolbwyntio ar fywyd a chymuned ffermio.
“Roedd y tymor cyntaf o esgor ar loi ac ŵyn yn cael gwared ag unrhyw syniadau rhamantaidd ynglŷn â ffermio.
Ond wrth ddysgu a sylwi ar y realaeth ennynnais ar ddiddordeb mawr yn yr anifeiliaid a’r bobl sy’n gweithio efo nhw.
Rwy’n cael f’ysbrydoli gan dyfiant yr anifeiliaid ar y fferm a gan yr ystod eang o gymeriadau gwahanol rwy’n cyfarfod â nhw yn y gymuned amaethyddol.”
Arddangosfa o Luniadau: Nadolig 2008
Drwy Gyfenw