Ganwyd Karl Davies yng Nghasnewydd, De Cymru. Bu yn dilyn cwrs BA Celf yn Cheltenham. Wedi hynny dilynnodd gwrs hyfforddi athrawon yng Nghaerdydd, gan dderbyn tystysgrif PGCE mewn Celf a Dylunio.
Dechreuodd baentio o ddifri eto ym mis Rhagfyr 2004. Bryd hynny ei brif gonsyrn oedd i berffeithio ei ddefnydd o ddatblygiad a chyferbyniad lliwiau. Yna roedd yn rhaid wynebu’r broblem o greu gofod a phellter ar arwynebedd gwastad.
Ar y cychwyn, defnyddiodd ffotograffiaeth digidol i archwilio cyfansoddiad, ac ar yr un pryd ail-ddarganfyddodd y pleser o ddefnyddio paent. Roedd am y tro cyntaf yn defnyddio tirlun fel thema, ac mae tirlun bellach yn profi’n arf llwyddiannus iddo gyfleu ei bleser o ddefnyddio paent.
Mae’n mwynhau y broses o greu ffurf gyda phaent, ac mae’n defnyddio cymysgedd o dechnegau brws ac fel arfer yn paratoi braslun cyn cychwyn paentio. Mae tirlun yn profi i fod yn adnodd sy’n rhoi pleser a rhyddid artistig di-bendraw iddo.
Oil 10x12"
£270
Oil 16x18"
£470
Oil 10x12"
£270
Oil 10x12"
£270
Oil 10x12"
£240
Oil 16x18"
£540
Mixed Media 6x8"
£140
Mixed Media 10x6"
£160
Mixed Media 6x7"
£130
Mixed Media 4x6"
£60
Mixed Media 8x12"
£200
Pencil 6x10"
£180
Pencil 7x9"
£180
Mixed Media 7x8"
£180
Arddangosfa o Luniadau: Nadolig 2008
Drwy Gyfenw