CV Artist

Howard Coles

Howard Coles

Datganiad yr Artist

Ganwyd Howard Coles yng Nghaerdydd ac astudiodd gerfluniaeth yng Ngholeg Celf y ddinas. Bu’n bennaeth Celf a Dylunio ym Mhrifysgol Hope, Lerpwl ac mae bellach yn byw yn Llyn – ardal sydd wedi bod yn ganolog i’w waith arlunio a phrintio.

Tirlun gogledd Cymru fu ei brif ysbrydoliaeth ers dros chwarter canrif. Mae bellach wedi ymsefydlu yn ei stiwdio yn Llanystumdwy, ac mae ei waith yn dal i gael ei ddylanwadu gan ei adwaith i, a’i dddehongliad o’r tirlun cadarn sydd o’i amgylch.

Mae ei waith yn awgrymu adwaith ac ymateb, yn hytrach na dehongliad llythrennol; tra mae ei dechneg yn awgrymu rhyw ddigwyddiad siawns neu ymdeimlad sy’n ddigon pwysig i’w trosglwyddo i bapur neu ganfas.

Mae wedi arddangos yn eang yn Singapore, Llundain, Caeredin, Penfro ac Oriel Mon. Mae yn artist oriel yn yr Albany, Caerdydd, Lerpwl ac yma yn y Plas.

Gwaith Ar Werth »

Arddangosfa Medi 2008

Drwy Gyfenw

Cysylltu

I gysylltu â ni defnyddiwch:

» Ffurflen Ymholi

» Tudalen Gysylltu

» Ymwadiad Safle

© Oriel Plas Glyn-y-Weddw 2008

Top