CV Artist

Clive Burnell

Artist Picture

Datganiad yr Artist

Ganwyd Clive Burnell ym Mhencoed, De Cymru yn 1950. Gadawodd yr ysgol yn bymtheg oed i weithio mewn diwydiant trwm cyn ymuno gyda Heddlu Morgannwg. Yn 1973 symudodd i ddwyrain Dyfnaint lle mae’n dal i fyw. Gweithiodd fel heddwas am 31 o flynyddoedd, gan ymddeol yn Rhagfyr 2000. Yn ystod ei yrfa hir treuliodd lawer o’i amser rhydd yn peintio ac yn astudio celf.

Yn 2003, yn dilyn adolygiadau ffafriol a chynnydd yn y galw am ei waith, penderfynodd gymryd y cam dewr o fod yn artist llawn amser. Ers hynny mae wedi arddangos mewn nifer o orielau ar draws Cymru a Lloegr. Yn 2004 enillodd ail wobr yng nghystadleuaeth ‘Hud a Lledrith Llŷn’ cyn mynd a’r brif wobr yn yr un gystadleuaeth yn 2006.

Mae Clive yn gweithio’n bennaf mewn Acrylig gan ddefnyddio olew ar brydiau. Bydd hefyd yn cyfuno'r ddau gyfrwng. Mae ei beintiadau yn cynnwys elfennau haniaethol gan alw ar ddelweddau o’r cof o dirluniau anghysbell Cymru a de-orllewin Lloegr. Wrth ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau mae’n adeiladu'r darlun dros gyfnod o wythnosau, misoedd neu weithiau blynyddoedd. Hon yw arddangosfa unigol gyntaf Clive Burnell ym Mhlas Glyn-Y-Weddw.

Gwaith Ar Werth »

Arddangosfa Mehefin 2008

Drwy Gyfenw

Cysylltu

I gysylltu â ni defnyddiwch:

» Ffurflen Ymholi

» Tudalen Gysylltu

» Ymwadiad Safle

© Oriel Plas Glyn-y-Weddw 2008

Top