Ganwyd a magwyd Lorraine Bewsey yn Llundain. Symudodd i Gymru gyda’i phartner a’i dau blentyn ac mae hi erbyn hyn yn byw yng Nghwm Tawe.
Graddiodd mewn darlunio o Athronfa Abertawe ac mae ganddi hefyd gymwyster TAR. Bu’n gweithio fei tiwtor a darluniwr llawrydd cyn sefydlu ei hun fel artist portreadol. Mae ‘Portreadu Beirdd yn brosiect blwyddyn a ddechraeodd ym mis Tachwedd 2005 i beintio 20 bardd blaenllaw sydd a chysylltiadau cryf â Chymru. Dywedodd:
”Dwi am i’m portreadau ddal hanfod personoliaeth y bardd , a chael eu gwerthfawrogi am ansawdd llinellu ac arlliwio. Hoffwn i’r rhai sy’n ymweld a’m harddanmgosfa deimlo fod sgil artist mewn arlunio a phaentio yn bwysig, a’u bod yn gwerthfawrogi parhad ymdrech artistig dros y canrifoedd”.
Mae’r portreadau wedi eu creu mewn pastel, mewn steil mynegiannol unigryw a gor-realistig, sydd wedi derbyn clôd rhyngwladol gan adolygoddion, curaduron a’r beirdd eu hunain.