Yr arlunydd adnabyddus o Fôn yn wreiddiol o bentref Llanaelhaearn yng Ngwynedd, gyda blynyddoedd o brofiad yn y maes arlunio yw John Baum. Astudiodd yn Ysgol Celfyddyd Gain Slade yn Llundain rhwng 1960 a 1964, gan ennill gwobr David Sylvester a’r wobr llunio yn ei flwyddyn gyntaf. Ac yntau ond yn 47 mlwydd oed, daeth yn Bennaeth Celf Coleg Menai, Bangor hyd nes ei ymddeoliad yn 1994.
Mae wedi arddangos yn eang ym Mhrydain, a cheir peth o’i waith cyn belled a Pharis a’r UDA. Dyma’r tro cyntaf i John Baum arddangos ym Mhlas Glyn Y Weddw, a bydd y gwaith yn cynnwys paentiadau mawr mewn acrilig yn adlewyrchu ei safbwynt unigryw o fywyd a phobl.
“Baum is a painter who believes that beauty may be seen in everyday events……,his paintings display impressive draughtsmanship and an original, innovative interpretation of the commonplace.”
Acrylig 122x92cm
£1,376
Acrylig 152.5x122cm
£3,010
Ar Gael
Gwerthwyd
Ar Gadw
Arddangosfa: Haf 2009
Drwy Gyfenw