Ganwyd Anne Aspinall ym Manceinion a chafodd ei hyforddi yng Ngholeg Celf y ddinas honno. Ymunodd â Gweithdy Longden ym 1986 lle roedd hi’n arbenigo fel ysgythrwr. Mae ei gwaith wedi cael ei arddangos yn rheolaidd ym Mhrydain a Chalifornia.
Rhwng 1988 a 1989, roedd hi’n trafaelio yn Ewrop a Gogledd Affrica lle cafodd ei chyfareddu gan efffeithiau’r haul cry far dirlun yr anialwch a chan batrymau a gwead cyfoethog y bensaerniaeth a’r tecstiliau.
Mae gwaith Anne yn ymateb i batrymau a rhythmau’r tirlun ac i newidiadau yng ngolau a lliwiau’r tymhorau. Cafodd ei dylanwadu’n fawr gan waith y paentwyr Albanaidd, William Gillies a Barbara Rae, ac hefyd gan liwiau tirlun Catterline o eiddo Joan Eardley. Mae ei gwaith diweddaraf yn cynnwys lliwiau llachar Moroco a bryniau a dyffrynnoedd Gogledd Cymru, Ardal y Llynnoedd (lle mae hi’n byw a gweithio) a glannau Ynysoedd Prydain.
Arddangosfa Gorffennaf 2008
Drwy Gyfenw