Gweithdai, Darlithoedd a Chyngherddau

Cyngherddau 2008

Rhagfyr

Lleisiau Mignedd: 7.30pm 22ain Rhagfyr 2008

Top

Tachwedd

Crescendo gyda Piantel: 7.30pm 22ain Tachwedd 2008

Top

Hydref

Trio Naatyashwora – Perfformiad Cyntaf y Byd: 7.30pm Dydd Gwener, Hydref 24ain

Trio Naatyashwora

Bydd tri o gerddorion traddodiadol Nepal yn teithio o amgylch Cymru - ac yng Nghymru’n unig- yn eu perfformiadau cyntaf tu allan i’r is gyfandir ym mis Hydref eleni. Caiff cerddoriaeth ei ystyried fel gweithgaredd ysbrydol ac hanfodol ymhob agwedd o fywyd yn Nepal. Mae’r aelodau yn hynod o awyddus i rannu diwylliant eu gwlad gyda chynulleidfa Gymreig. Nepal yw un o’r gwledydd tlotaf yn y byd a bychan yw gwerth arian y wlad yn rhyngwladol. Felly, dyma gyfle unigryw i bobl o’r gorllewin brofi diwylliant Nepalaidd (diolch i gefnogaeth hael gan Gynllun ‘Noson Allan’ Cyngor Celfyddydau Cymru).

Mae gan y triawd storfa o gerddoriaeth gan gynnwys alawon sy’n dyddio’n ôl i’r ddeuddegfed ganrif, gan grwpiau a dosbarthiadau ethnig gwahanol o fewn eu cenedl amrywiol. Caneuon i ferched, baledau, cerddoriaeth grefyddol a sanctaidd, a cherddoriaeth sy’n berthnasol i gyfnod y dramau epig Hindŵaidd enwog fel Mahabharata a Ramayana. Maent yn perfformio gyda offerynnau gwerin Nepalaidd, gan gynnwys Maadal (drwm Nepalaidd), Saarangi (ffidil 4 llinyn), Baansuri (ffliwt bambŵ croes), Jhaamtar (offeryn 2 linyn wedi ei blicio), Majiraa (symbalau pres bychain) a Shankha (cragen dro).

Ar sawl achlysur bydd cerddorion Cymreig yn cefnogi’r tri ar y llwyfan a bydd gweithdai ar gyfer plant ag oedolion. Dyma ble fydd y cerddorion yn chwarae:

  • Eglwys Sant Marc, Wrecsam: Dydd Iau, Hydref 23ain
  • Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog: 7.30pm Dydd Gwener, Hydref 24ain
  • Caplaniaeth Anglicanaidd, Bangor: Dydd Sadwrn, Hydref 25ain
  • Canolfan Taliesin, Abertawe: Dydd Sul, Hydref 26ain
  • Castell Bodelwyddan, Sir Ddinbych: Dydd Mercher, Hydref 29ain
  • Y Tabernacl, Machynlleth: Dydd Iau, Hydref 30ain
  • Theatr Brycheiniog, Aberhonddu: Dydd Gwener, Hydref 31ain
  • Canolfan Ucheldre, Caergybi: Dydd Sul, Tachwedd 2il

Yn cyflwyno eu perfformiadau fydd Ram Prasad Kadel sy’n fentor ar y grŵp ac yn Gyfarwyddwr yn Amgueddfa Offerynnau Gwerin Nepal yn Kathmandu. Mae hefyd yn gyfrifol am elusen sy’n cefnogi cerddorion Nepalaidd. Er gwaethaf pwysigrwydd cerddoriaeth i fywyd cenedlaethol, rôl isel yn gymdeithasol sydd gan y cerddorion a’i hystyrir fel Dalit neu ‘anghyffyrddadwy’. Mae deuddeg mlynedd o ryfel gwladol, twristiaeth a chyfryngau torfol o’r Gorllewin wedi effeithio’r diwylliant traddodiadol yn Nepal gan ei wneud yn fwy bregus nag erioed. Drwy roi cyfle i Ram a Trio Naatyaswora rannu eu llawenydd mewn diwylliant unigryw, bydd cynulleidfaoedd yn gymorth i ddiogelu diwylliant sydd o dan fygythiad.

Top

Awst

Noswithiau Llawen: Awst 2008

Gorffennaf

Cyngherdd: Razmataz gyda Dr Jazz, Gorffennaf 4ydd 2008 6.30pm

Cysylltu

I gysylltu â ni defnyddiwch:

» Ffurflen Ymholi

» Tudalen Gysylltu

» Ymwadiad Safle

© Oriel Plas Glyn-y-Weddw 2008

Top