Oriel Plas Glyn-Y-Weddw PRIODASAU

Llun o priodferch

Mae gan Blas Glyn-y-Weddw drwydded i gynnal priodasau sifil. Yn ystod y blynyddoedd diweddar mae’r oriel wedi datblygu i fod yn safle poblogaidd ar gyfer priodasau.

Deilir drwydded alcohol lawn ar y safle yn ogystal ag arlwywyr safonol. Fe allwn felly gynnig gwasanaeth amrywiol, o archeb seremoni yn unig i becynnau seremoni a gwledd priodas gyflawn. Am wybodaeth pellach Cysylltwch â’r Oriel.

Yma ym Mhlas Glyn-y-Weddw gallwn gynnal eich seremoni briodas a’r wledd. Dyma leoliad delfrydol i briodi - plasdy Fictoraidd Gothig wedi ei restru yn Radd II* gan CADW.

Ar ddyddiau clir mae golygfa odidog o Fae Ceredigion a mynyddoedd Eryri, sydd yn ardderchog ar gyfer eich lluniau priodas. Yn ystod yr Hydref mae’r coed ar Fynydd Tir y Cwmwd gerllaw yn troi eu lliwiau’n aur a choch ac yn y gwanwyn mae’r Cennin Pedr allan ar lawnt y Plas.

Tu mewn mae’r grisiau a’r lle tân yn gefndir deniadol i luniau.

Y Seremoni Briodas

Derbyniad

Mae’r seremoni briodas yn cael ei chynnal yn Oriel Kyffin Williams, sydd â lle i hyd at 100 o bobl.

Rhaid cysylltu â’r cofrestrydd, Joan Pritchard, ym Mhwllheli i wneud trefniadau ar gyfer y seremoni briodas.

Manylion Cofrestrydd

Joan Pritchard
Pwllheli 01758 704078

10.00am - 12.00 Dydd Mawrth a Dydd Iau
2.00pm - 4.00pm pob diwrnod arall

Y Wledd

Yr arlwywyr ar gyfer priodasau yw Caffi'r Oriel - Defnyddir cynnyrch lleol lle bo’n bosib ac mae’r bwyd wedi ei baratoi yn ffres. Mae lle i hyd at 80 o bobl i gael pryd llawn a hyd at 100 i fwffe. Bydd y costau arlwyo yn ddibynnol ar eich gofynion ac i’w trafod gyda'r Oriel.

Adloniant

Llun o gyngerdd

Yn achlysurol, bydd Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn cynnal cyngherddau amrywiol. Os hoffech gymorth gyda threfnu adloniant, fe geisiwn ein gorau eich helpu.

Llety

Mae llety hunan ddarpar wedi ei raddio yn 3 gradd seren gan Fwrdd Croeso Cymru ar gael ym Mhlas Glyn-y-Weddw.

Cyfyngiadau

Oherwydd y drwydded alcohol a chyfyngiadau yswiriant, mae rhai cyfyngiadau ar ddefnydd yr Oriel. Mae’n ANGENRHEIDIOL cadw at y rheolau.

  • Ni chaniateir ysmygu o gwbl yn yr adeilad. Bydd ein larwm tân sensitif yn galw’r Frigâd Dân os bydd unrhyw fwg yn yr adeilad.
  • Ni chaniateir taflu conffeti papur y tu fewn na thu allan i’r adeilad. Mae conffeti naturiol Mis Mêl sydd wedi ei wneud o betalau rhosod wedi eu sychu ar werth yn yr Oriel.
  • Rhaid i’r parti fin nos ddod i ben erbyn 11.30yh.
  • Ni chaniateir diodydd i fyny’r grisiau.
  • Bydd rhaid talu am unrhyw ddifrod.

Prisiau

Mae’r prisiau isod am logi’r Oriel yn unig, nid ydynt yn cynnwys arlwyo.
Bydd yr Oriel ar gau i’r cyhoedd yn ystod eich priodas a’r wledd.

  • Gwasanaeth Priodas Sifil (llogi’r Oriel am 1 awr) ar benwythnos - £750
  • Gwasanaeth Priodas Sifil (llogi’r Oriel am 1 awr) yn ystod yr wythnos - £450
  • Llogi’r Oriel am ddiwrnod cyfan ar y penwythnos - £2,500
  • Llogi’r Oriel am hanner diwrnod ar y penwythnos (4yp ymlaen) - £1,750
  • Llogi’r Oriel am ddiwrnod cyfan yn ystod yr wythnos - £1,750
  • Llogi’r Oriel am hanner diwrnod yn ystod yr wythnos - £1,250
  • Pecynnau Priodasau - i gynnwys lluniaeth a llogi’r Oriel.
  • Pecynnau llawn i gynnwys blodau, ceir moethus, telynores / cerddorion, llogi offer ayb.

Nid ydym yn cynnal priodasau yn ystod gwyliau ysgol rhwng mis Ebrill ag Hydref.

O dan amgylchiadau arbennig fe allem dderbyn archebion ond rhybuddir yma fod pris llogi'r oriel yn cael ei ddyblu am y cyfnodau hyn.

Cysylltwch am fanylion llawn neu i wneud apwyntiad i drafod eich anghenion.

Sut i drefnu priodas lwyddiannus

Cytundeb Priodas

Cytundeb Arlwyo

www.perfecttableplan.com

Cysylltu

I gysylltu â ni defnyddiwch:

» Ffurflen Ymholi

» Tudalen Gysylltu

» Ymwadiad Safle

© Oriel Plas Glyn-y-Weddw 2008

Top