Mae cyfle i chi hefyd aros ym Mhlas Glyn-y-Weddw!
Tu cefn i’r Oriel mae llety hunan ddarpar yn cysgu hyd at 12 o bobl.
O ardd y Plas mae golygfeydd godidog o fynyddoedd Eryri a Bae Ceredigion. Nepell o’r safle mae traeth Llanbedrog, sydd dan reolaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Gyda’r Oriel hefyd yn gyswllt i’r Llwybr Cerdded Arfordirol does dim syndod fod y llety hwn yn boblogaidd iawn gyda theuluoedd a grwpiau.
Cyfleustra
Lleolir yr uned hunan ddarpar tu cefn i’r Oriel. Nodwch os gwelwch yn dda fod yr Oriel yn agored 7 diwrnod yr wythnos yn ystod gwyliau ysgol ac ar bob diwrnod heblaw am Ddydd Mawrth, ym mhob cyfnod arall.
Bydd yr Oriel hefyd yn agored yn achlysurol yn ystod y nos ar gyfer cyngherddau neu achlysuron arbennig.
Mae mynediad i’r llety tu cefn i’r Oriel ble y lleolir meysydd parcio ar gyfer 2 gerbyd.
Y Llety
Llawr Cyntaf
Llawr Gwaelod
Bwyta Allan
Os teimlwch fod angen seibiant arnoch o’r gegin cymerwch fantais ar wasanaeth arlwyo pen ei gamp yn nhŷ bwyta’r Oriel. Mae Caffi’r Oriel yn agored o 10:30am hyd at 4:30pm - yn berffaith ar gyfer brecwast hwyr, cinio neu dé Cymreig.
Prisiau
Mae'r llety ar gael i’w logi am gyfnodau o wythnosau yn unig yn ystod gwyliau ysgol, gyda chost gosod o £1,000.
(Noder os gwelwch yn dda, y bydd y prisiau yn cynyddu yn 2009.)
Tu allan i gyfnodau gwyliau ysgol rydym hefyd yn llogi’r llety am gyfnod byrrach (Llun-Iau neu Gwener-Llun) am gost o £450.
Yn ystod cyfnodau thu allan i’r tymor gwyliau byddem hefyd yn cynnig prisiau gostyngiadol arbennig o gyn lleied â £500 yr wythnos.
Gorffennaf 2008
Llety hunan-ddarpar - Gwyliau Byr
Gorffennaf 14eg i 17fed £600
Cysylltwch â ni i dderbyn manylion neu edrychwch allan am fwy o gynigion arbennig yma ac ar ein tudalen gartref.
» Agor ffurflen archebu y llety i'w brintio
SORI OND NI CHANIATEIR ANIFEILIAID ANWES
BYDD RHAID TALU AM UNRHYW DDIFROD
NODWCH NA CHANIATEIR YSMYGU YN UNMAN O FEWN YR ADEILAD