Polisi PREIFATRWYDD

Oriel Plas Glyn-y-Weddw Cyf. Cwmni yn y DU

Rhif TAW: 700 8246 66
Elusen Gofrestredig: 1070495
Cwmni Cyf. Gwarantedig: 02994771

Mae cyfrinachedd a phreifatrwydd yr unigolyn yn bwysig iawn i ni. Nid yw Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn rhannu data a gesglir gan gyflenwyr, gwefannau na defnyddwyr gydag eraill. Petai y sefyllfa i newid, fe fyddwn yn rhybuddio pawb perthnasol i gydymffurfio gyda unrhyw ymrwymiad, cyfyngiadau neu amodau a osodir arnom gan Ddeddf Gwarchod Data 1984 a 1998. Yn y dyfodol, mae’n bosib y gwnawn ddarparu ystadegau cyfanred ynglŷn â’n cwsmeriaid, gwerthiant, patrwm trafnidiaeth a gwybodaeth safle perthnasol, i drydydd parti cyfrifol a hysbysebwyr, ond ni fydd yr ystadegau hyn yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonnol.

Pa wybodaeth a gesglir gennym a sut yr ydym yn ei ddefnyddio?

Mae Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn casglu gwybodaeth gan ddefnyddwyr y wefan hon yn awtomatig a phan gwblheir archeb ar-lein, ymholiad a ffurflenni ymateb, neu ddefnydd o gyfleusterau ‘gwasanaeth cwsmer’ awtomatig.

Pan yn gwneud archeb, mae’n bosib y byddwn angen gwybod eich enw, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad cludo, rhif cerdyn credyd neu debyd, dyddiad y daw y cerdyn i ben a chyfeiriad i anfon anfoneb. Mae hyn yn ein galluogi ni i brosesu eich archeb ac i’ch hysbysu o fanylion cludiant. O bosib, byddwn yn gofyn am eich rhif ffôn cartref a gwaith er mwyn ein galluogi i gysylltu â chwi mewn cyfyngder os bydd problem gyda’ch archeb. Ambell waith, bydd yn angenrheidiol i ni roi y rhifau hyn i’r cludwr.

Byddwn yn monitro y gweinyddwr a’r cofnodydd bas data yn rheolaidd, gan gadw, ar gyfrifiadur, gopi cyflawn o’r wybodaeth yma ac unrhyw gyfathrebiadau electronig cysylltiedig.

Mae’r wybodaeth a gedwir yn cynnwys yr holl fanylion a roddir gennych chwi yn ogystal â’r holl ddata a gesglir gan ein gweinyddwr, ein cofnodydd bas data, yr IP a’r cyfeiriadau e-bost a ddarperir gan y Darparw(y)r Rhyngrwyd. Defnyddir y wybodaeth i hyrwyddo rhediad hwylus ein busnes, ac hefyd, mae yn un o’n prif ffyrdd i fonitro gwellianau gwasanaeth.

Eich Caniatad

Trwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn caniatau casglu a defnyddio’r wybodaeth gan Oriel Plas Glyn-y-Weddw. Os bydd unrhyw newid i’n polisi preifatrwydd, byddwn yn nodi’r newidiadau hynny ar y dudalen hon, fel eich bod bob amser yn ymwybodol o pa wybodaeth yr ydym yn gasglu, sut yr ydym yn ei ddefnyddio ac o dan pa amgylchiadau yr ydym yn ei ddatgelu.

Nodwch, os gwelwch yn dda, y bydd eich gwybodaeth personnol yn cael ei ddefnyddio gennym i’ch hysbysu am wasanaethau newydd a chynnigion arbennig gyda mynegiant o’ch caniatad. Os byddwch yn ail-feddwl ac yn dymuno atal eich caniatad ar unrhyw adeg, anfonwch e-bost i tynnu@oriel.org.uk er mwyn i ni eich diddymu o’r gwasanaeth hysbysu.

Printio'r Polisi Preifatrwydd » Printio'r Polisi Preifatrwydd

Cyfeiriad

Oriel Plas Glyn-y-Weddw
Llanbedrog
Pwllheli
Gwynedd
LL53 7TT
t 01758 740 763
f 01758 740 232

© Oriel Plas Glyn-y-Weddw 2008

Top